Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chasglu at wahanol gapelau. Casglasant yn 1862 at y Genadaeth £3 6s., yr hyn oedd yn dda iawn mewn lle fel y Morfa. Casglasant at Fund yr hen weinidogion £4 4s., yr hyn oedd yn rhagorol.

Wrth edrych yn fanwl dros lyfr eglwys y Morfa, mae yn eglur fod yno un dosparth wedi bod yn ffyddlon a chyson iawn yn eu cyfraniadau, ac ni fyddai yn iawn beio eglwys y Morfa gyda'u gilydd, heb grybwyll y ffaith hon; ac felly yr hyn sydd yn angenrheidiol yn eglwys y Morfa, fel degau o eglwysi ereill, yw cydweithrediad. Mae yn llawn bryd i'r eglwysi yn mroydd Mynwy a Morganwg ddeall a chredu fod llafur meddyliol yn haeddu ei gyflog fel rhyw lafur arall, a dylent gofio gyda llaw mai cyflog gyfiawn yw tâl gweinidog, ac nid elusen. Mae'r eglwysi yn credu yn dra chyffredin yn awr mai melldith ac nid bendith yw gweinidogaeth rad.

Y mae yn llawn bryd i ni bellach grybwyll am dano fel pregethwr. Gellir dyweyd am dano, beth bynag, ei fod yn gwbl wreiddiol yn ei ddull ac yn ei bethau; ond, o ran hyny, gan ei fod ef wedi boddloni byw yr un fath ag y gwnaeth ei Greawdwr ef, nis gallasai fod fel arall, oblegid nid yw Efe yn gwneud dau yr un fath.

Yr oedd dull corph Mr. Harries yn hynod, ac felly am ei feddwl a'i ystum. Yr oedd ei ddull yn y pulpud yn effeithiol iawn, pan fuasai mewn hwyl. Nid oedd erioed yn ei fywyd wedi darllen unrhyw fath o draethawd ar araethyddiaeth; ac eto yr oedd ei ystumiau yn hollol naturiol ac effeithiol, a'r rheswm am hyny yn ddiau oedd, ei fod yn meddu ar brif elfen araethyddiaeth, sef teimlad: nid yw yr holl reolau ereill yn werth dim, os bydd hon ar goll. Nid yn fuan yr anghofiaf ei freichiau hirion yn estynedig dros yr areithfa, ar flaenau y rhai'n yr oedd dwylaw gyda'r mwyaf a welais erioed; a phan y byddai ef yn ei hwyliau goreu, rhedai hyawdledd a theimlad megis drwy flaenau ei fysedd. Nis gellir ei alw yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a roddir i'r gair mawr yn y cysylltiad hwn yn gyffredin; ond er hyny, yr oedd yn bregethwr mawr mewn gwirionedd. Nid oedd yn fawr o herwydd ei fod yn gallu dyweyd pethau na ddeallai y bobl, ac na ddeallai ei hun—nid oedd un amser yn gwneud hyn. Nid oedd