Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR HUNANGOFIANT.

PENOD I.

Tymor Mebyd.

NANTGWINEU—EI RIENI—Y TEULU—Y SIOP—GORBRYDER EI RIENI YN EI GYLCH—HANESION DIGRIF AM DANO—OFERGOELEDD YR OES.

FE'M ganwyd mewn lle a elwir Nantgwineu, Cwmystwyth, yr hwn a saif ar derfyn dwyreiniol ystad yr Hafoduchryd. Mab oeddwn i James a Sarah Edwards. Masnachwr oedd fy nhad; ac adwaenid fy rhieni fynychaf trwy eu galw yn James a Saly y Shop. Dyddiad fy ngenedigaeth oedd Mehefin y 30ain, neu Gorphenaf 1af, 1824. Ganwyd i fy rhieni naw o blant, chwech o ferched a thri o feibion. Bu fy nau frawd farw cyn fy ngeni; ac felly myfi oedd eu hunig fachgen oedd yn fyw. Achlysurodd hyn i'w serchiadau redeg arnaf yn rymus iawn, a gwneyd i'w gofal am fy niogelwch a'm cysur fod yn orofal a gorbryder. A gallaf ddweyd i hyny achosi iddynt brofedigaethau mawrion ar rai adegau. Yr oedd y cynlluniau a gymerent i fy nghadw rhag myned ymaith oddiwrth y tŷ, gyda chyfoedion i mi a ddeuent yn fynych i'r siop, yn ymylu ar fod yn annoeth, a gwnaeth ofid iddynt fwy nag unwaith. Yn yr adeg hono, yr oedd prif ffordd Aberystwyth a Rhaiadr yn rhedeg trwy Cwmystwyth, ac heibio ein tŷ ninau. A mynych iawn y byddai pob math o grwydriaid, ysgubwyr simneiau, a'r cyffelyb, yn