Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mawr cyffredinol, sef diwygiad y Parchn. Humphrey Jones a David Morgans, Ysbytty. Dechreuodd hwnw yn haf 1858, tua Treddol ac Ystumtuen, trwy weinidogaeth y blaenaf a nodwyd, yr hwn oedd weinidog Wesleyaidd.

[Hyd yma y mae Mr. Edwards wedi myned â'r hanes. Clywsom ef yn dweyd iddynt hwy yn y Cwm gael y diwygiad cyn Diwygiad mawr 1859, ac na chawsant hwy gymaint a llawer o eglwysi o'r olaf oblegid hyny. Codwyd y capel hardd sydd yno yn awr tua'r flwyddyn 1870. Mae yno hefyd dŷ capel a vestry room hynod o gyfleus at wasanaeth yr achos, heblaw y fynwent fawr sydd rhwng hyny a'r afon Ystwyth. Mae ar y rhai hyn ryw gymaint o ddyled, ond y mae sefyllfa yr achos yn ddymunol iawn. ]