Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallaf adrodd un ffaith ddigrif arall bron o'r un natur. Ar ryw ddiwrnod teg iawn yn yr haf, yr oeddwn yn digwydd bod yn y siop, pan oedd fy mam yn gwerthu i'r cwsmeriaid. Yr oeddwn y pryd hwnw oddeutu pedair neu bump oed. Erbyn i fy mam ddyfod i'r siop o'r tŷ, gwelodd nad oeddwn i yno. Dechreuodd holi fel arfer, "Pa le mae y bachgen bach?" Ond nid oedd neb wedi fy ngweled er's tro. Dechreuwyd holi os oedd rhai o'm cyfoedion wedi bod yno; ond wedi dyfod o hyd iddynt, nid oedd yr un wedi fy ngweled, a dyna oedd ateb yr holl gymydogion. Felly nid oedd un dychymyg gan neb ymha le yr oeddwn. Aeth yn hynt ymchwiliadol unwaith eto trwy y gymydogaeth. Ar y pryd yr oedd y miners yn dyfod allan o'r gwaith, ac aeth y rhai hyny i chwilio y pyllau a'r coedydd, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd gwedd ddiflas ar bob wyneb, a llawer o wylo ymhob cyfeiriad. O'r diwedd cafwyd gafael yn y colledig y tro hwn eto. Ymhlith y nwyddau yr arferai fy rhieni fasnachu ynddynt, arferent fasnachu mewn lledr. Yr oedd yno groen crwn ar y pryd yn rhol fawr. Yr oeddwn o chwilfrydedd plentynaidd wedi myned i fewn i'r rhol ledr hono, a gorwedd nes i drwmgwsg fy ngoddiweddyd, ac felly fyned yn anymwybodol o bob peth o'm cwmpas. Ymhen llawer o oriau, digwyddodd i rywun ymaflyd yn y rhol, a'i theimlo yn hynod o drwm, ac wedi chwilio gwelwyd mai fi oedd yno wedi hen gysgu. Mawr fu y llawenydd; ond nid ychydig fu y drafferth i alw yn ol y torfeydd oedd allan yn chwilio am danaf. Ac nid ychydig ar ol hyny fu y digrifwch am y rhol ledr a'i lletywr.

Yr oedd pryder fy nhad am danaf wedi myned yn ddiareb trwy y gymydogaeth. Yr oedd yn arfer myned i'r farchnad i Aberystwyth bob dydd Llun, ac yn cychwyn tua phump o'r gloch y boreu, haf a gauaf. A byddai yn arferol bob amser, wedi myned rhyw 60 llathen oddiwrth y tŷ, o waeddi rywbeth oedd wedi ei anghofio; ond diwedd y story bob amser fyddai, "Meindiwch at y bachgen bach." Byddai nodi pob peth o'r cyffelyb bethau yn ddigon lenwi cyfrol. Ac O! mae cofio am bryder a serch fy