Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pan oddiweddid rhai gan ryw drallod, ato ef yr elai pawb, megis yn reddfol, i adrodd eu tywydd, am y ceid ynddo y cydymdeimlad llwyraf, a'r cynghorion goreu pa fodd i weithredu. Hwyr un dydd daeth Dafydd ——— ato, dan bwys ei drallod, i ffarwelio ag ef, gan ei fod yn myned i adael yr ardal dranoeth, am yr ystyriai ei fod yn cael cam gan gyfraith y wlad. Cafodd gydymdeimlad dwys yr holl deulu yn y Fron; a digwyddodd i amgylchiad gymeryd lle ar y pryd oedd, yn ein tyb ni, yn dangos hyny. Yr oedd yno lanc o was yn y teulu ar y pryd, yn gwrando yr ymddiddan. O'r diwedd, gorchfygwyd ef gan gwsg. Ond pan alwyd arno i ddweyd adnod yn yr addoliad teuluaidd, adroddodd yr adnod arwyddol hono o amgylchiad y dyn trallodedig, 'O Arglwydd, cofia Dafydd, a'i holl flinder.' Amgylchiadau felly fyddai yn fynych yn dyfod dan ei sylw ef, a rhedai ei gydymdeimlad yntau i weddiau drostynt, am eu cofio yn eu holl fiinder."

Yr oedd yn arweinydd yr ardal, hefyd, mewn achosiou gwladol. Etholwyd ef yn aelod o'r Bwrdd Ysgol cyntaf yn y district, yn niwedd 1871, a bu felly hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd pawb yn ystyried na allent hebgor ei wasanaeth. Felly y byddai yn yr etholiadau Seneddol. Byddai ef bob amser yn gynghorwr, er yn "arwain ei galon mewn doethineb." Yn etholiad Mr. Evan Matthew Richards, yn 1868, cyn i'r ballot gael ei fabwysiadu, aeth ef, gyda'i gyfaill o'i gyfenw, y Parch. Thomas Edwards, Penllwyn, ar hyd y wlad o dy i dy i ddysgu y bobl, a'u harwain i'r iawn gyfeiriad. A dywedwyd llawer y pryd hwnw yn yr etholiad, ac ar ol yr etholiad, gan gyfeillion a gelynion, am y "Ddau Domos Edwards," a'u dylanwad rhyfeddol ar y dynion.