Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a barnu oddiwrth gymeriad cyffredinol Mr. Edwards, gallem feddwl mai y rhai a ddywedent ei fod yn rhy dyner wrth ddisgyblu, yw y rhai agosaf i'w lle. Ond, a chaniatau fod ynddo golliadau, yr ydym braidd yn sicr, yn ei holl ymwneyd â dynion, fod rhinweddau Cristion da yn rhy amlwg i'w gwadu ynddo, sef cymwynasgarwch, addfwynder, hirymaros, a chariad o galon bur. Yr oedd mor debyg a neb a adwaenem i fod yn un o'r "rhai ysbrydol," y dywed Paul wrthynt am "adgyweirio y rhai a oddiweddid ar ryw fai."

Byddai yn llawer o ameuthyn i grefyddwyr yr oes hon pe byddent yn aros yn fyfyrgar uwchben yr hanes a rydd Mr. Edwards am ei dröedigaeth, pan oedd oddeutu ugain oed. Mae yr hanes am rai yn cael tröedigaeth amlwg fel efe, yn beth prin iawn yn Nghymru er's blynyddoedd. Gwelir ei fod wedi cael dechreu teimlo nerthoedd y byd a ddaw," ac iddo allu myned i'w ffordd ei hun am ryw gymaint drachefn o ran y rhai hyny, nes i'r "llef ddistaw fain" ei gyrhaeddyd, yn yr wythnos o bregethu fu yn y Cwm, Gwelir yn amlwg ynddo ef y gall tröedigaeth gyflawn pechadur fod yn waith graddol. Mae yn cynwys y cyfiawnhau a'r aileni, y rhai sydd bob un o honynt yn weithred a gyflawnir ar unwaith; ond tröedigaeth, ac argyhoeddiad hefyd, yn fwy tebyg i'r sancteiddhad-yn waith graddol. Bu ef yn hir mewn ystorm, a chafodd ymdrechfa galed pan yn "gwingo yn erbyn y symbylau." Yr oedd fel nodwydd y morwr, yn hynod o sigledig gan ddylanwad y gwyntoedd, ac yn methu penderfynu y cyfeiriad. O'r diwedd, aeth attyniad y groes yn gryfach na phob dylanwad arall, a safodd a'i olwg ar Galfaria. O hyn allan yr ydym yn ei weled yn filwr, wedi gwisgo yr arfogaeth, a thyngu llw o ffyddlondeb i Grist, ac yn rhyfela yn wrol o dan ei faner. Bu mewn ymdrechfa ofnadwy â'r "cawr anghrediniaeth," nes bu iddo bron golli y dydd. Ond enill a wnaeth, a daeth allan i "gadarnhau ei frodyr yn fwy nag erioed."

Meddylier am y lleoedd dirgel oedd ganddo,-un yn ymyl y tŷ, y llall ar lan y nant heb fod ymhell o'r tŷ, a'r llall yn Llechwedddyrus, pan oedd yn gweithio yn y gwaith yn Copperhill. Mae Mr.