Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. Mae yr oll yn gofyn mesur helaeth o waith a gofal, a llwyddodd ef i enill cymaint o ymddiried fel y cafodd fod yn y gwahanol swyddau hyd ddiwedd ei yrfa.

Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. John Bowen, Pontrhydfendigaid, am dano :— "Gwaith mawr yr wyf fi yn ei wneuthur,' meddai Nehemiah gynt. Fe gyflawnodd Mr. Edwards yntau waith mawr yn ei ddiwrnod, a bu yn ffyddlawn yn holl dy Dduw megis gwas. Ac iddo ef yr oedd gwaith y ty yn fawr, a'r rhwymedigaethau yn lliosog. Heblaw y dyledswyddau oedd yn orphwysedig arno fel bugail eglwys Cwmystwyth, ac fel gweinidog i'r Cyfundeb yn gyffredinol, gwnaeth wasanaeth mawr fel cadeirydd Cyfarfod Daufisol dosbarth Cynon, fel ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac fel ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gogledd Aberteifi. Dan ei arolygiaeth ef a'r diweddar Mr. John Jones, Mynach, fe ddygwyd cyfarfod daufisol y dosbarth yn gyfryw o ran gallu, trefn, ac effeithiolrwydd, fel yr edrychid arno gan ddosbarthiadau eraill y sir yn gynllun teilwng i'w efelychu. Ac i'w ymdrechion ef yn benaf, ynghyd a ffyddlondeb y trysorydd, Mr. D. J. Davies, U.H., Aberystwyth, y rhaid priodoli llwyddiant y Drysorfa Sirol, yr hon sydd wedi profi yn allu mor rhagorol yn llaw y Cyfarfod Misol, i symud mynyddoedd o ddyledion oedd yn gorwedd fel hunllef parhaus ar yr eglwysi gweiniaid, cyflenwi eu puludau â gweinidogaeth gyson, a sicrhau mesur o arolygiaeth drostynt. Fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, bu yn hynod ffyddlawn i holl ddyledswyddau ei swydd, trwy ddwyn penderfyniadau y Cymdeithasfaoedd gerbron yn brydlon i'w dadleu, a rhoddi holl bwysau ei ddylanwad o blaid y symudiadau hyny. Ffydd wan oedd ganddo ef yn nghymwysder annrhefn y gyfundrefn deithiol i gwrdd âg anghenion yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd, yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credai yn gryf y dylai pob eglwys fod o dan ofal bugeiliol, a gwnaeth ei oreu i enill barn a theimlad yr eglwysi i'r un golygiad ag ef ei hun ar y mater. O ran gallu meddyliol, nid oedd yn uwch na lliaws ei frodyr, nac wedi bod, fel Saul wrth draed unrhyw Gamaliel, mewn coleg, eto fe