law cyfaill ieuanc o Lanllyfni, a ddygwyddai fod yn Nghaernarfon y diwrnod hwnw, i'w roddi i berson y plwyf, i'w ddarllen yn yr Eglwys y Sul canlynol; a hyny heb i'r ferch ieuanc wybod dim yn nghylch y peth. Aeth hi i'r capel y prydnawn hwnw, ac wrth ddychwelyd oddiyno pa beth a glywai, er ei syndod, gan rai o'i chyfeillesau ieuainc ond fod gostegion ei phriodas yn cael eu darllen yn y Llan y boreu hwnw. Ac ar foreu dydd Mercher, Mai 14, 1828, yn ol y Gofrestr yn Llan y Plwyf, Llanllyfni, fe briodwyd John Jones a Frances Edwards. Ac fe gafodd ynddi hi, yn holl ystyr y gair, "ymgeledd cymmwys iddo." Un yr oedd ei holl galon arno, ac nad oedd dim yn ormod ganddi i'w wneuthur er ei fwyn. Un a digon o allu ac ewyllys ganddi i gymmeryd arni ei hunan, yn fuan, agos holl bwysau eu hamgylchiadau bydol, er mwyn rhoddi pob mantais a allai iddo ef gyda'r gwaith mawr yr oedd ei holl fryd arno, ac yr oedd wedi ei gymhwyso mor arbenig gan natur a gras iddo. Yr oedd ei galon yntau yn rhwym wrthi hithau; a mynych y cyfeiriai yn ei bregethau, yn y lleoedd yr ydoedd yn lled gynnefin ynddynt, at ei "Fanny" yn y fath ddull ag a ddangosai ei bod wedi ymblethu â'i serchiadau dyfnaf, ac yn meddiannu dylanwad dirfawr arno. Cafodd hi, er aml gystudd, a chlefyd trwm iawn unwaith, a dwyn llawer o blant i fynu, ar y cwbl iechyd da i ymladd â'r byd megis drosto ef; ac y mae Cymru drwyddi oll dan ddyled fawr i'r wraig hon, sydd erbyn hyn yn fam yn Israel, am yr hyn a wnaeth er lloni meddwl, a hyrwyddo llwybr, un o'r pregethwyr goreu a gafodd erioed, yn ei wasanaeth annhraethol werthfawr gydag efengyl ein Harglwydd Iesu Grist. Ein dymuniad ydyw ar i fendith y nefoedd barhau i orphwys arni hi ei phlant a'i hwyrion; as ar i brydnawnddydd ei bywyd fod yn dawel a hafaidd a digymmylau, gyda sicrwydd llawn o "drannoeth teg."