the Jews, from Jesus Christ to the Present Time, agos yr un fath; ac felly Prideaux's Old and New Testament Connected, in the History of the Jews and Neighbouring Nations; ac amryw lyfrau cyffelyb. Y llyfr diweddaf a nodwyd fyddai efe yn ganmol uwchlaw odid un i bregethwyr ieuainc. Yr oedd wedi myfyrio llawer iawn ar y rhanau Prophwydoliaethol o'r Ysgrythyrau, yn neillduol llyfr Daniel a'r Datguddiad, ac wedi darllen llawer o'r amrywiol awdwyr sydd wedi ysgrifenn ar y rhanau hyny, yn enwedig ysgrifeniadau Mr. Faber. Yr oedd pob peth, dybygid, a ddarllenasai erioed, yn aros yn ei gûf, ac yn barod at ei alwad, pa bryd bynnag y gofynid iddo draethu ar unrhyw fater: ac yn enwedig yn peri fod ei gyfarchiadau a'i areithiau ar achosion Cenhadol a Biblaidd yn hynod o'r difyrus ac addysgiadol.
Fel pregethwr, yr oedd yn wastadol yn dra sylweddol ond yn gwbl amddifad o bob gallu areithyddol. Esboniai y rhan fyddai dan ei sylw fel testyn gyda'r cyd-destynau—yn fanwl ac yn eglur, a byddai ffurf y bregeth bob amser yn drefnus, er yn hytrach yn ormodol ar wedd traethawd; ond, oblegyd rhyw undônedd sychlyd ac annaturiol oedd yn ei lais, a rhyw ostyngiad cloff a disymwth arno yn niwedd y frawddeg, ac nad oedd erioed wedi dysgu taflu ei enaid i'w eiriau; ac, heblaw hyny, y byddai yn pregethu yn hynod-yn afresymol-o faith,— nid oedd fel pregethwr mewn un modd yn boblogaidd, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o'i einioes fe ddaeth yn llawer mwy poblogaidd yn Sir Gaernarfon nag y buasai erioed o'r blaen. Yr oedd hyny yn cyfodi oddiar ddau beth: cryn gyfnewidiad ynddo ef ei hunan; a chyfnewidiad mwy, feallai, yn ei wrandawwyr. Yr oedd efe, fel yr oedd yn heneiddio, yn pregethu yn fwy bywiog ac iraidd, ac, weithiau, yn gallu codi ei lais i ychydig bereidd-dra, oedd ynddo ef, fel hen ŵr, yn dra dymunol; ac yn enwedig yr oedd yn pregethu yn llawer iawn byrach. Ac yr oedd y cynnulleidfaoedd, erbyn hyny, wedi dyfod yn llawer craffach a mwy deallus, ar felly yn fwy galluog i werthfawrogi ei bethau, nag oeddent yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth.
Parhaodd i lafurio gydag ymröad hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd ei lygaid wedi bod, hyd nes oedd yn hen iawn, mor dda fel y gallai ddarllen llyfr yn yr argraff fanaf, braidd, heb wydrau. Ond fe ballodd ei olwg yn dra disymwth. Eto byddai yn myned o amgylch i bregethu, fel o'r blaen, ac wrth ddechreu y cyfarfod yn agor y Bibl, ac yn