Yr un modd dranoeth, ddydd Sadwrn, yn Llangwyryfon, y boreu; yn Rhydyfelin, y prydnawn; ac yn Aberystwyth yr hwyr. A'r dydd canlynol, y Sabbath, Awst 10, yn Aberystwyth, y boreu; y Garn, yn y prydnawn; a Machynlleth yr hwyr; gan brysuro tua chartref, dranoeth, trwy Ddolgellau a Thrawsfynydd. Dyma ei ymweliad cyntaf â Deheudir Cymru. Yr oedd yn cael hyfrydwch mawr, ar hyd y daith, yn y gwaith mawr yr aethai allan o'i blegid; ac fe ddychwelodd adref gyda phenderfyniad cryfach braidd nag oedd ganddo o'r blaen i'w wneyd yn brif orchwyl ei fywyd.
Nid ydym, er pob ymdrech, wedi llwyddo i gael un eglurhâd boddlonol pa fodd y bu na wnaed derbyniad rheolaidd o hono yn aelod o'r Gymdeithasfa, yn y cynnulliad oedd yn ymgyfarfod yn Mhwllheli y flwyddyn hon. Yr ydym yn sicr, oddiar yr hyn a glywsom o'i enau ef ei hunan, na wnaed hyny,―ond mai yn Nghaernarfon, y flwyddyn ganlynol, yr ymddyddanwyd âg ef gyntaf mewn Cymdeithasfa, ac y derbyniwyd ef yn aelod o honi. Yr eglurhad a roddid i ni gan un hen frawd oedd fod ei safle uchel fel pregethwr, rywfodd, yn peri i'r brodyr annghofio ei fod heb ei dderbyn, yn neillduol gan ei fod wedi symmud ar ol dechreu pregethu o Sir, neu yn hytrach Gyfarfod Misol Sir Feirionydd, i Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon. Mewn geiriau ereill, fe'i hannghofiwyd, ac fe'i hannghofiwyd o herwydd ei ragoriaeth. Ond prin y cyd-saif hyn â'r crybwylliad a fuasai am dano yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y Mehefin blaenorol. Fe ddygwyddodd yr un peth, pa fodd bynnag, gydag ereill o enwogrwydd mawr yn y cyfundeb, megis y Parch. Thomas Richard yn Neheudir Cymru. Clywsom y Parch. William Morris, Ty Ddewi, yn dywedyd fod Mr. Richard wedi bod fwy nag unwaith ar daith yn y Gogledd, ac wedi bod yn pregethu yn fynych mewn Cymdeithasfäoedd yn y Deheudir, cyn ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, ac mai yr un pryd y derbyniwyd Mr. Richard ag y derbyniwyd Mr. Morris ei hunan, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu flynyddoedd ar ei ol ef. Yr un modd bu blynyddoedd o oediad cyn y derbyniwyd y diweddar Mr. Hughes o Liverpool yn aelod o'r Gymdeithasfa. Ond pa beth bynnag a barai yr oediad gyda John Jones, y mae yn sicr fod rhyw ddealltwriaeth o berthynas iddo ef am ryddid iddo i fyned, fel pregethwyr ereill, i ba le bynnag y byddai galwad arno, megis pe buasai wedi ei dderbyn yn rheolaidd, oblegyd yn niwedd y flwyddyn hon, yr un flwyddyn ag y buasai yn Sir Aberteifi, yr ydym