oedd pob peth ganddo y tro hwn eto. Yr oedd wedi ei wrandaw amrywiol weithiau er pan y buasai gartref o'r blaen, a mwy na hyny, yr oedd wedi clywed ganddo ei fod wedi addaw myned, yn fuan wedi dechreu y flwyddyn, ar gyhoeddiad trwy Sir Fôn. Yr oedd yr holl frodyr yn Nghaergybi yn llawen iawn o glywed hyn, ac yr oedd dysgwyliad mawr a phryderus am ei ymddangosiad yn y lle. Y Sabbath Ionawr 30, 1825, yr oedd cyhoeddiad y Parch. John Elias yn Nghaergybi, lle y pregethodd am ddau yn y prydnawn ac am chwech yn yr hwyr. Pan ddaeth adeg hysbysu am y moddion rhagllaw, fe ddywedodd y cyhoeddwr y byddai John Jones, o Sir Gaernarfon, yno yn pregethu am ddau ac am chwech y Sabbath canlynol. Gyda ei fod yn darfod cyhoeddi, dyna Mr. Elias yn dywedyd,—"Fyddaf fi byth yn arfer dywedyd dim yn gyhoeddus, cyn eu dyfodiad, am y brodyr dieithr a fyddont yn ymweled â'n gwlad. Yn wir yr ydwyf yn fwriadol wedi arfer peidio, rhag creu rhyw ddysgwyliadau a allont wedi hyny gael eu siomi, ac felly peri i'r gŵr dieithr a'r gwrandawwyr fwy o niwed nag o les. Ond yr wyf yn meddwl fod y gŵr a gyhoeddwyd i fod yma y Sabbath nesaf y fath ag i'm cyfiawnhau am adael fy arfer braidd bob amser hyd yma o'r neilldu. Y mae yno lawer John Jones yn Sir Gaernarfon, ac y mae yno fwy nag un John Jones yn bregethwr; ond mi fyddai yn dda genyf fi i chwi ddeall mai nid rhyw John Jones cyffredin ydyw y brawd a gyhoeddwyd i fod yma yn pregethu y Sabbath nesaf. Mi gefais i gyfleusdra, ers tua dwy flynedd bellach, i wrando arno yn pregethu ryw noswaith yn Beddgelert, yn Sir Gaernarfon. Fe fynai y gŵr ieuanc, yn wylaidd iawn, beidio pregethu, a thrwy gryn drafferth y cafwyd ganddo ddywedyd dim. Ond yr oeddwn i wedi clywed rhyw sôn am dano ac yn dra awyddus i'w wrando, ac fe lwyddwyd o'r diwedd i gael ganddo gydsynio. Mi a deimlais, ar unwaith, fod yno rywbeth newydd a nerthol a gwerthfawr iawn yn ei ddawn. Bu agos iddo bregethu hyny o bregeth oedd genyf fi o'm meddwl. Ni theimlais braidd erioed yn fwy anhawdd cyfodi i fynu ar ol neb." Ac yna fe derfynodd ei gyfarchiad yn ei ddull effeithiol ei hunan,—"Mae yn dda genyf i fod daear i 'nghuddio i, o olwg y pregethwyr y mae yr Arglwydd ar godi." Yr oedd hyn yna yn ddigon i gasglu tyrfa fawr y'nghyd, ac i godi dysgwyliadau annghyffredin, ac, mewn rhai, agos afresymol, wrth y pregethwr. Yr ydwyf yn cofio yn dda fel yr oeddwn i a'm cyfoedion, a phawb yn wir, yn hiraethu am y Sabbath canlynol, ac yn gobeithio
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/159
Gwedd