yn amddiffyn i mi rhag derbyn dim niwed oddiwrth y tyndra oedd yn y Capel, ac yr ydwyf yn cofio eto yn dda fy mod yn troi fy mhen i fynu ato, yn fuan wedi i John Jones ddechreu pregethu, ac yn dywedyd wrtho, "Y mae hwn yn ei medru hi." Aeth yr holl ofn oedd genyf iddo fod yn well na John Elias ymaith ar unwaith. Yr oeddwn y pryd hyny yn ddigon craff i weled fod arddull y ddau mor wahanol i'w gilydd, fel nad ydoedd yn un rival i Mr. Elias; ac yr oeddwn, erbyn hyn, yn hollol foddlawn iddo gyrhaedd unrhyw ragoriaeth oedd ddichonadwy iddo, yn yr arddull a fynai. Wedi ein cadw ni yno am dros awr, yn traethu am hawliau yr Anfeidrol i'n gwasanaeth, ac agor ger ein bron, mewn dull gogoneddus, y drefn trwy Iesu Grist i'n derbyn i'r gwasanaeth, aeth rhagddo i ddangos, mai derbyn y drefn hono oedd y gwasanaeth cyntaf oedd yr Arglwydd yn osod ar ac yn ddysgwyl oddiwrth bechadur, a bod yn hyny rywbeth ag oedd yn gosod priodoldeb neillduol ar yr annogaeth yn y testyn, "Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd; deuwch o'i flaen ef â chân." Yr oedd ei lais, erbyn hyn, y peth pereiddiaf a mwyaf soniarus a glywswn erioed, ac yn effeithiol tu hwnt i bob dysgrifiad ar deimladau y gynnulleidfa. Nid oedd yno odid wyneb sych yn y lle, ac yr oedd yno rai wedi methu ymattal rhag tori allan, yn yr hen ddull Cymreig anwyl, i ddiolch yn orfoleddus am y drefn. Cafodd feddiant llwyr o'i wrandawwyr, a buddugoliaeth hollol arnynt. Ymadawodd pawb wrth fodd eu calon, ac y mae yn anhawdd meddwl na phenderfynodd rhai o'r newydd yno, y boreu hwnw, eu rhoddi eu hunain yn ngwasanaeth yr Arglwydd.
Prysurasom tua Chaergybi i gael tamaid o giniaw, ac i fod mewn pryd yn y capel erbyn yr oedfa am ddau ar y gloch. Yr oedd lliaws dirfawr wedi dyfod yno o'r dref a'r wlad, fel yr oedd ugeiniau a channoedd yn methu myned i mewn i'r capel. Ei destyn am ddau, ydoedd Psalm cxvii. 2. "Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr." Yr oedd yr oedfa hon yn llawn mor lewyrchus a'r oedfa yn y boreu, a'r fuddugoliaeth mor hollol yn nheimladau y gynnulleidfa i gyd, er na thorodd neb allan i waeddi. Ei destyn am chwech yn yr hwyr, oedd, Dat. xiv. 13. Gwyn eu hyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, &c." Yr oedd yr hin wedi troi braidd yn anfanteisiol erbyn y nos; y gwynt yn gryf, fel yr oedd yn rhaid cau y drysau a'r ffenestri, ac oblegyd bod y dyrfa yn anferthol o fawr, yr oedd y capel yn fwll ac afiachus—a rhwng hyny, a bod ei lais yntau wedi crygu ychydig―ni chafwyd