Athrofa, ac yr oedd hyny yn swnio yn beth llawer mwy y pryd hyny nag y mae y dyddiau hyn. Yr oedd cryn bryder yn meddwl John Jones pan yn wynebu ar Wrexham, wrth feddwl cyfarfod â, a phregethu yn nghlyw yr Athraw yno. Yr ydym yn cofio clywed Mr. Hughes yn chwerthin yn galonog iawn, pan oedd John Jones yn darlunio, mewn ychydig gellwair yntau, ei ofnau mawr wrth feddwl pregethu i'r College. Ond cyfarfu Mr. Hughes ag ef ac â Mr. Roberts, mewn rhyw dŷ yn y dref, y prydnawn hwnw ar dea, a chawsant ddwy awr neu dair o gyfeillach â'u gilydd cyn myned i'r Capel. Ac yr oedd y fath sirioldeb yn ymddangosiad Mr. Hughes, y fath ddiniweidrwydd plentynaidd ac iachusol yn ei chwerthiniad, a'r fath ostyngeiddrwydd anymhongar a dirodres yn ei holl ddull, fel y teimlodd John Jones ei hunan ar unwaith yn gwbl gartrefol yn ei gymdeithas, ac y dechreuwyd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhäodd yn ddidor, ac yn ddigwmmwl, hyd nes ei attal gan angeu.
Yr oedd Mr. Hughes yn ŵr gwahanol iawn i Mr. Roberts. Daw ei gymeriad fel pregethwr eto dan ein sylw. Digon i ni yn awr ydyw dywedyd, fod ei ddoniau gweinidogaethol y fath ag i'w godi a'i gadw, am dros ddeugain mlynedd, yn un o brif bregethwyr ein cenedl; a bod teimlad cyffredinol trwy ein gwlad, pan y bu farw, ein bod wedi colli un o'r rhai penaf o'n cedyrn; ac y mae hiraeth dwfn yn mynwesau miloedd eto ar ei ol. Eithr nid at y gwahaniaeth yn y pulpud rhyngddo â Mr. Roberts yr oeddem yn awr yn cyfeirio, ond yn hytrach at y gwahaniaeth amlwg oedd rhyngddynt yn eu teithi meddyliol. Yr oedd Mr. Hughes c dymherau naturiol llawer mwy serchog a charuaidd, ac felly, yn dra gwahanol i Mr. Roberts, yn fwy tueddol i sylwi ar yr hyn y cytunai ynddo âg arall nag ar yr hyn y gwahaniaethai oddiwrtho. Yr oedd ei feddwl hefyd o nodwedd llawer mwy ymarferol; ac nid ydoedd mor hoff o, nac yn gosod cymmaint o bwys ar, nac, ychwaith, ni a dybiem, mor gydnabyddus â chwestiynau a dadleuon athronyddol ac arddansoddol â Mr. Roberts. Ac, yn arbenig, yr oedd yn llawer iawn mwy cymmedrol a phwyllog a gwyliadwrus a gochelgar nag oedd efe a chan deimlo nad oedd y pethau yn y rhai yr oedd gwahaniaeth rhwng brodyr a'u gilydd yn cyffwrdd dim â hanfod yr efengyl fel trefniant ar gyfer pechadur colledig, ni byddai braidd byth yn ei bregethau yn gwneyd un cyfeiriad atynt, a buasai yn anmhosibl i neb, wrth wrandaw arno ef, gasglu dim mwy na'i fod yn tueddu at ryw syniad-