ffesu, egwyddorion Anffyddiaeth. Yr oedd rhai o'r gwrthddadleuon a ddygid yn erbyn Cristionogaeth yn gyfryw ag nad oedd ei feddwl of o'r blaen wedi ei ddwyn i gyfarfyddiad â hwynt; a pharodd ei annghydnabyddiaeth â'r ddadl Anffyddaidd ar y cyntaf, ac am ychydig amser, beth profedigaeth iddo. Penderfynodd, pa fodd bynnag, hyd y gallai, ei meistroli yn hollol, ac arweiniwyd ei feddwl trwy hyny i gylch o efrydiaeth oedd iddo ef yn gwbl newydd, ac a deimlid ganddo hyd ddiwedd ei oes o wasanaeth mawr iddo. Yr oedd yn hawdd i'r craffus ganfod, yn fuan iawn ar ol ei ddychweliad o Lundain y pryd hyn, fod rhyw wedd fwy athronyddol ar ei bregethau nag a arferai fod. Nid oedd un cyfnewidiad yn y gwirioneddau, ond yr oedd fel yn cloddio yn ddyfnach i'w sylfeini yn natur Duw a natur dyn a'r cysylltiadau pwysig tragywyddol sydd rhwng dyn a Duw fel creadur iddo, ac yn neillduol fel gwrthryfelwr yn ei erbyn. Ond fe ddaw hyn dan ein sylw eto.
Yr oedd yn cymmeryd gofal mawr tra yn Llundain y tro hwn, os elai allan heb arweinydd gydag ef, nad äi ond i'r heolydd cyfagos i'r Crescent, rhag iddo golli y ffordd a chael ei daflu felly i brofedigaeth. Ond, unwaith, gan feddwl am ryw beth arall, fe aeth rhagddo, ac a'i cafodd ei hunan nas gwyddai yn y byd yn mha le. Nid oedd yn cofio ei fod wedi gweled yr heol yr oedd ynddi erioed o'r blaen, ac nid oedd yn gallu gweled o honi gymmaint ag un o'r adeiladau a adnabyddid yn dda ganddo, ac y teimlai yn gwbl dawel pan yn eu golwg. Yr oedd yn myned yn mlaen, gan edrych a welai neb a adwaenai, neu a dybid ganddo yn debyg i Gymro, ond yn methu a chanfod neb, ac heb un ddirnadaeth ganddo pa un ai nesau at, ai ymbellhau oddiwrth, y Crescent yr ydoedd. O'r diwedd, fe feddyliodd nas gallai wneuthur dim yn well na galw am gerbyd, a rhoddi ei hunan ynddo, a dywedyd wrth y cerbydwr, No. 12, Jewin Crescent. Yr oedd yn ddigon o Sais i ddywedyd hyny. Cyn pen dau neu dri munud yr oedd yn ei letŷ; fel, wedi y cwbl, y rhaid ei fod, yr holl amser yr oedd yn y pryder a'r ofn, yn rhywle yn agos iawn i'r lle a gollasid ganddo.
Gadawodd Lundain ar fore dydd Mawrth, Rhagfyr 9. Cyrhaeddodd yr Amwythig ryw bryd ddydd Mercher, a phregethodd yno y noswaith hono, oddiar Can. iv. 8. Aeth drannoeth rhyngddo a'i gartref, a chafodd orphwys y Sabbath canlynol, Rhagfyr 14, gyda'i deulu a'i gyfeillion, yn llawen iawn o gael ei hunan drachefn yn nghanol golyg-