PENNOD IX.
YMRODDIAD I LAFUR GWEINIDOGAETHOL CYFLAWN: 1829—1833.
Yr Ordinhadau Arwyddol yn destyn efrydiaeth arbenig—Cymdeithasfa Llangeitho, 1829 llafur Sabbothol yn cynnyddu—teithio llawer i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Pregethu—Cymdeithasfa Beaumaris—Dolgelleu—pryder meddwl oblegyd aflwyddiant ei weinidogaeth—ceisio cael allan oedd dim diffyg yn y modd y cyflawnid hi—taith i Sir Fôn, 1830—ymweliad â Liverpool a Manchester—Cymdeithasfa y Wyddgrug, 1830—y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris—taith i Sir Feirionydd—i Siroedd Dinbych a Fflint—mwy cartrefol yn 1831—Cymdeithasfa Llangeitho, 1831Cymdeithasfaoedd Beaumaris a Dolgelleu eto—Cymdeithasfa Llanrwst—taith i Sir Drefaldwyn—taith eto i Sir Fôn—oedfa hynod yn Nghyfarfod Misol Llangefni— Cymdeithasfa y Bala, 1832—Cymdeithasfa Llanerchymedd—dyfodiad y Cholera i'r Deyrnas ac i Gymru am y tro cyntaf ymdrech egniol yn erbyn llygredigaethau yr oes—Diwygiad mawr yn tori allan yn Sir Gaernarfon, ac yn ymdaenu trwy y gwledydd.
Yr oedd Mr. John Jones yn awr wedi myned trwy yr holl brawf, arferedig y pryd hyny, ar Weinidogion yr efengyl, yn y Cyfundeb y perthynai iddo, ac wedi ei neillduo i'r holl waith. Fe genfydd y darllenydd, ar unwaith, fod cyfnewidiad mawr wedi cymmeryd lle, gyda golwg ar hyny, er yr amser y neillduwyd ef. Erbyn hyn, y mae y derbyniad yn aelod o'r Gymdeithasfa a'r Neillduad i'r holl waith, yn cymmeryd lle yr un amser, neu, yn hytrach, y mae y derbyniad i'r Gymdeithasfa trwy y Neillduad: ac os bydd gŵr ieuanc, yn awr, yn arddangos rhyw fesur o gymhwysder at y Weinidogaeth ac yn ymroddi iddi,—yn arbenig, os bydd wedi ei alw gan ryw eglwys i gymmeryd gofal neillduol am dani, a'r eglwys hono yn galw am ei Ordeiniad, ac yntau wedi myned yn llwyddiannus trwy yr "Arholiad Cymdeithasfaol" rhagbarotöawl, y mae ei Neillduad yn canlyn braidd fel peth hollol sicr; gan na bydd prin amheuaeth, yn y fath amgylchiadau, na chaiff ddwy ran o dair o eglwysi y Cyfarfod Misol y byddo yn perthyn