agwedd y galon a'r ysbryd tu ag at Dduw, fe benderfynodd, gyda difrifoldeb a dwysder mawr, wylio mwy arno ei hunan nag erioed o'r blaen, a meithrin,-trwy ddarlleniad mwy cyson ar y Bibl iddo ei hunan fel pechadur, trwy gymundeb mwy agos â'r nefoedd mewn gweddi ddirgel, ac, yn neillduol, trwy gymdeithas fwy gwastadol â Christ Iesu yn haeddiant ei aberth, ae yn mherffeithrwydd ei gymeriad a'i esiampl,―y moddion goreu yn ddiau i feithrin-crefydd bersonol yn ei feddwl a'i galon ei hun; a hyny yn awr, yn arbenig, fel cymhwysder arno i'r gorchwyl pwysig ag ydoedd erbyn hyn, yn ei holl ranau, wedi ei ymddiried iddo. Ond gyda hyny, ac yn ddoeth iawn hefyd, fe benderfynodd ymdrechu ei barotoi ei hunan yn neillduol at y rhan ychwanegol o'r gorchwyl ag oedd yn awr yn disgyn arno, trwy astudiaeth fanwl a gofalus ar yr holl ranau hyny o'r gair sanctaidd ag a ystyrid ganddo ef yn dal unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r Ordinhadau Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ac, yn enwedig, ar y Gwirioneddau hyny a ddysgir yn arbenig ynddynt, a'r Dyledswyddau neillduol ac arbenig sydd yn gorphwys ar y rhai a ymarferont â hwynt. Mynodd bob llyfr a allai gael, yn yr iaith Gymraeg, a fyddai yn debyg o roddi unrhyw gymhorth iddo yn y cyfeiriad hwn: a mynych iawn y clywsom ef yn cwyno oblegyd ein diffyg mewn llyfrau da ar yr Ordinhadau, yn enwedig Swpper yr Arglwydd; ac mor ddifudd, gyda golwg ar yr hya sydd ymarferol yn yr Ordinhad, ydyw braidd y cwbl o'r llyfrau sydd genym ar Fedydd. Yr ydym yn cofio yn dda, ac y mae yn ddiammeu genym fod cannoedd o'i hen wrandaẅwyr yn Sir Gaernarfon yn cofio yn llawn cystal, y gallu meddyliol anarferol a ddangosid ganddo yn ngweinyddiad yr ordinhadau hyn. Byddai ei Areithiau ar Fedydd, am flynyddoedd lawer, yn nodedig o alluog: yr ydoedd ynddynt yn myned i mewn, yn fanwl ac yn helaeth, i'r naill ran neu y llall o'r pwnc, ac yn cymmeryd y mater fyddai ganddo dan sylw braidd bob amser mewn gwedd hollol ymarferol, a phob amser yn yr ysbryd mwyaf Cristionogol, heb byth ddefnyddio cymmaint ag un ymadrodd a allasai roddi achlysur cyfreithlawn tramgwydd i neb a allasai fod yn bresennol ac yn annghytuno ag ef. Weithiau cymerai hawl babanod i fedydd; weithiau y gwirioneddau a arwyddoceir yn y bedydd; weithiau y broffes a wneir trwy fedydd; weithiau dyledswyddau uniongyrchol y rhïeni tuag at y plant a ddygid ganddynt i'w bedyddio; weithiau y pwys o fagu y plant yn yr eglwys; weithiau yr angenrheidrwydd o'u
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/203
Gwedd