modd y mae Ysbryd Duw yn gweithredu, ei fod yn gwneyd hyny yn gyson â deddfau naturiol meddwl y creadur y mae yn gweithredu arno; a thra y mae y gwaith mewn gwirionedd yn oruwchnaturiol nad ydyw mewn un modd i'w ystyried yn wyrthiol. Yn awr, yr ydym ni yn gwybod, pan y bydd arnom ni eisiau newid teimlad rhyw un, tuag at unrhyw beth, mai yr unig ffordd sydd genym i hyny, ydyw ceisio newid ei feddwl am dano,—cyflwyno y gwrthddrych mewn rhyw wedd ger ei fron a dueddo i beri iddo synio yn wahanol am dano. Yr un modd, fe ellid meddwl, y mae Ysbryd Duw yn gweithredu er cyfnewid pechadur a'i ddwyn i feddwl yn fawr am Iesu Grist: y mae yn ymwneyd â'r dyn, trwy ollwng digon o oleuni newydd i mewn iddo ar y pethau ac ar y gwrthddrychau y mae yn angenrheidiol cyfnewid ansawdd ei galon tuag atynt; ac yn a thrwy y goleuni hwnw yn effeithio y cyfnewidiad arno. Y mae gan Ysbryd Duw ddigon o ymddiried yn y pethau, y bydd i'r pechadur, ond eu hadnabod yn briodol,{ddyfod i deimlo ac i ymddwyn yn briodol tuag atynt. Y mae ê yn deall fod cymmaint o ddrwg mewn pechod, nad oes eisiau i'r dyn ond ei adnabod yn iawn, er dyfod i'w gasau â chasineb perffaith; cymmaint o berygl yn y cyflwr drwg, nad oes eisiau ond ei weled, er cynnyrchu pryder trwy yr holl enaid am gael gwaredigaeth o hono; cymmaint o addasrwydd a gwerth a gogoniant yn Mab Duw fel Gwaredwr, 'fel nad oes eisiau ond cael golwg arno, er sugno y galon ar ei ol, ac ennill y meddwl i ymddiried ynddo. Y mae y diafol yn dra gwahanol. Y mae o yn deall yn dda na ddeil ei nwyddau ef ddim goleuni, ac mai ei unig obaith ef i ddwyn yn mlaen ei fasnach ydyw y tywyllwch; ac, am hyny, y mae yn casau y goleuni, ac a'i holl egni yn ceisio dallu meddyliau y rhai digred, fel na thywyno iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.' A hwyrach," meddai, "fod gradd o berygl rhag i ninau, yn ein gweinidogaeth, lithro i wasanaethu, yn gwbl ddifwriad, amcanion ofnadwy gelyn mawr eneidiau dynion, trwy fod yn lleni tewion rhwng eu meddyliau â'r goleuni nefol, ac nid yn wydr gloew, dysglaer, yn gyfryngau manteisiol i ollwng ffrydiau cryfion a thanbaid o'r llewyrch dwyfol i mewn i'w calonau." Can gynted ag yr oedd Mr. John Jones wedi eistedd, cododd Mr. Elias yn ddisymwth ar ei draed, ac, mewn cyffro, dywedai, yn ei ddull ei hunan,—" Er mwyn pob peth, frodyr anwyl, gochelwn y tir yna. Y mae tai ein cymmydogion yn myned ar dân, ac y mae rhai o'r gwreichion yn disgyn am ben ein tai ninau.
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/238
Gwedd