gosod allan gan un ag sy'n ewyllysio cynnorthwyo y Cymro uniaith i farnu 'n uniawn. Caerfyrddin: Argraffwyd gan N. T. a J. W. dros Enoch Francis, 1733." Y mae y llythyr at y darllenydd wedi ei ddyddio, "Pencelly, Ebrill 18, 1733." Y mae y llyfr yn cynnwys 214 o du dalenau, ac yn amcanu gosod allan yn dêg yr amrywiol olygiadau a goleddid yn nghylch y materion yr ymdrinir â hwynt; ac, yna, golygiadau yr awdwr ei hunan, a'r seiliau ysgrythyrol ar y rhai y gorphwysant. Mae tôn y llyfr yn hynod gymmedrol, heb arwyddo tuedd at ddim eithafol; ac, yn yr adran ar Brynedigaeth, yn sefyll dros ddigonolrwydd yn marwolaeth Crist i gadw holl ddynolryw, ond effeithiolrwydd i'r etholedigion yn unig; a bod" cyhoeddiad o iachawdwriaeth neu gynnygiad o fywyd, yn cael ei ddala allan, trwy'r Efengyl, i bawb a wir gredo yn Iesu Grist, tan yr enw o bechaduriaid." tudal. 137. [1] Er ceisio gwrthweithio dylanwad ac attal cynnydd syniadau Arminaidd yn Nghymru, fe gyhoeddwyd, yn mhen ychydig amser, lyfr a elwid, "Histori yr Heretic Pelagius. Yn yr hon y rhoddir cyflawn Hanes o'i Heresi ef. Dangosir, Y modd y torodd yr Heresi hono allan yn ddiweddar ym mysg y Protestaniaid: Y modd yr ydys yn gwyrdroi yr Ysgrythyrau tuag at eu Hamddiffyn. Hefyd, Y modd y cafodd ei dwyn i mewn (yn yr Oes ddiwaetha a aeth heibio) i'r Deyrnas hon. Gan S. T. Argraffwyd yn y flwyddyn 1735." Y mae yn llyfr bychan destlus ac ynddo 256 o dudalenau 24 plyg. Y mae tua ei hanner yn cynnwys "Histori Arminius." Nid oes sicrwydd pwy oedd yr S. T. a gyhoeddodd y gyfrol hon. Dywed awdwr "Llyfryddiaeth y Cymry" fod yn ddigon tebyg mai Samson Thomas, gweinidog Ymneillduedig yn Sir Benfro, ac awdwr yr "Oes—lyfr " ydoedd. Ond y mae Mr. Thomas Rees (History of Protestant Nonconformity in Wales) yn dywedyd mai Mr. Simon Thomas, gweinidog rhyw eglwys Annibynol yn Sir Henffordd, ydoedd. Pwy bynnag ydoedd, y mae yn amlwg ei fod yn teimlo yn gryf yn erbyn Arminiaeth, ac yn amcanu gwneyd ei ran tu ag at attal ei lledaeniad yn Nghymru.
- ↑ Wedi ysgrifenu ac argraffu y Nodiadau uchod, fe ddaeth i'n llaw gopi—ond, yn anffodus, copi anmherffaith—o argraffiad newydd o'r llyfr y cyfeiriwn ato, a ddygwyd allan dan olygiad Mr. David Jones, Caerdydd, ac a argraffwyd yno, yn y flwyddyn 1839, gan Ll. Jenkins. Y mae yr argraffiad newydd hwn yn cynnwys, heblaw y gwaith gwreiddiol, annerchiad byr o eiddo y Cyhoeddwyr; ychydig o Hanes Bywyd yr Awdwr; ynghyd a Chywydd a gyfansoddwyd ar yr achlysur o'i farwolaeth, gan un Mr. Jenkin Thomas, oedd ar y pryd yn Weinidog yr eglwys Henaduriaethol neu Annibynol, yn y Drewen.