dywedyd y lleiaf, fel yr addefwyd gan Mr. Wesley ei hunan, wedi eu geirio yn dra anochelgar; eto, yr oedd elfen efengylaidd drwyadl yn rhedeg trwy ei athrawiaeth ef a'r rhai a gydlafurient âg ef, fel y gwelir wrth ei ysgrifeniadau ef a'r eiddo Mr. Fletcher, ac, yn arbenig, megis ag y mae yr un gyfundraeth yn ymddangos yn ysgrifeniadau Richard Watson a phregethau Dr. Bunting, ac amryw ereill o'r brodyr Wesleyaidd. Yr ydym yn ofni nad oedd cymmaint o arbenigrwydd yn cael ei roddi ar yr elfen hono gan rai o'r pregethwyr Wesleyaidd cyntaf yn mhlith y Cymry; a bod Mr. Bryan yn enwedig, yn fynych yn gosod gwedd fwy annghymmeradwy ar eu hathrawiaeth, i rai o syniadau Calvinaidd, nag a ofynid gan hanfod a bywyd a nerth yr athrawiaeth hono. Pa fodd bynnag, fel yr hen Arminiaeth sychlyd ddeddfol, ag oedd wedi ymlid crefydd ysbrydol braidd yn gwbl o'r holl wledydd y cawsai dderbyniad ynddynt, yr edrychai yr hen frodyr arni; ac, felly, fel cyfundraeth ddrygionus a melldigedig, ac yn cynnwys elfenau hollol groes i hanfod yr efengyl a dinystriol i eneidiau dynion. Ac y mae yn ddiammheuol fod lliaws o'r pregethau a draddodid y pryd hyny yn ein gwlad, yn mhlith y tri enwad Calvinaidd, yn ei gosod allan mewn gwedd hagr iawn, ac yn cynnwys llawer o eiriau caledion yn ei herbyn. Byddai Mr. Elias yn ei darlunio, weithiau, fel ag i greu dychryn hollol rhagddi yn meddyliau ei wrandawwyr. Clywsom un yn adrodd am dano yn pregethu mewn Cymmanfa yn y Bala, tua y flwyddyn 1808, am "Gariad Crist." "Yr oedd wedi cael rhyw hwyl annghyffredin i lefaru; a phan yn tynu yn agos i ddiwedd y bregeth, fe waeddodd allan, Un challenge eto i ddiawl ac Armin cyn tewi,—" Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist?" nes y bu y gair Armin, yn fy meddwl i am flynyddoedd, yn rhoi yr ystyr agosaf o bob peth i'r gair 'diawl.'" Clywsom amryw yn dywedyd nas gallai Mr. Christmas Evans, yn y blynyddoedd hyny, prin bregethu un bregeth na byddai yn bwrw cawodydd o ddifriaeth ar Wesleyaeth. Ac y mae yn hawdd genym gredu hyny, oddiwrth engreifftiau o'r fath, a gawn mewn rhai pregethau a gyhoeddwyd ganddo ei hunan tua'r adeg hono. Mewn Pregeth o'i eiddo oddiar Heb. vii. 22, "Crist yn Fachniydd yn y Cyfammod Newydd dros ei Bobl," a argraffwyd yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn, 1807,—yr hon a ail-argraffwyd yn y Gyfrol o'i "Bregethau, Dammegion, ac Areithiau," a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth ef, gan Mr. John Hughes, ac a argraffwyd yn Nghaerdydd, 1840,—yr ydym
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/292
Gwedd