ydyw yn agos mor adnabyddus ag y buasai yn dda i'n cenedl ei fod, ac y mae ei ragoriaeth yntau yn ddibetrus yn deilyngu. Mae, yn ei gylch ei hunan, yn ddiddadl, y prif lyfr a gyhoeddwyd erioed yn ein hiaith; ac y mae yn amheus genym a oes mewn un iaith un llyfr llawer cyflawnach, os mor gyflawn, ar yr amrywiol destynau y traethir arnynt ynddo. Mae argraffiad newydd rhadlawn o'r gwaith rhagorol hwn, yn awr yn cael ei gyhoeddi gan Mr. Gee o Ddinbych, a byddai yn dda genym glywed ei fod yn cael derbyniad cyffredinol gan ein cenedl.
Tra yr ydoedd y dadleuon hyn yn myned yn mlaen rhwng Mr. Thomas Jones a Mr. Owen Davies, fe gyhoeddwyd amryw fân-lyfrau, ar y naill du a'r llall, gan awdwyr ereill. Un o'r cyfryw oedd,"Cofiant am y diweddar Barchedig John Brown, gweinidog yr efengyl yn Scotland, &c. Wedi ei gasglu a'i gyfieithu o'r Saesonaeg, gan John Parri, gynt Athraw Ysgol yn Môn. Caerlleon: Argraffwyd gan W. C. Jones, 1806." Un amcan arbenig i'r cyhoeddiad hwn, fel y mae yn hawdd gweled, oddiwrth ei nodwedd, oedd, rhoddi i'r wlad ryw syniad am yr hyn a olygid wrth Galviniaeth, a dynoethi anysgrythyroldeb y syniadau Arminaidd. Y mae, er mwyn hyn yna, yn cynnwys cyfieithiad o amrywiol Erthyglau allan o Brown's Dictionary, a'i "Select Remains," a rhai o'i Ysgrifeniadau ereill. Y mae y Galviniaeth a ddysgir ynddo yn ymddangos braidd yn rhy un-ochrog, ac yn peri i un dybied fod yr ymosodiadau a wneid arni eisoes yn dechreu effeithio ar feddwl Mr. Parry, fel y gwnelent ar feddyliau rhai ereill, i'w arwain yn lled bell yn y cyfeiriad gwrthwynebol.
Yn nechreuad y flwyddyn ganlynol, fe gyhoeddwyd "Galwad garedigol ar yr Arminiaid, i ystyried, Pwy a wnaeth ragor rhyngddynt hwy ac ereill. Dolgelleu. Argraffwyd gan T. Williams." Nid ydyw enw yr awdwr ar y wyneb-ddalen: ond y mae wedi ei gyfansoddi yn y ffurf o lythyr at yr Arminiaid, a'r enw a'r dyddiad ar ei ddiwedd,—John Roberts, Llanbrynmair, Chwef. 10, 1807." Dyma, hyd ag yr ydym ni yn deall, ymddangosiad cyntaf Mr. Roberts trwy y Wasg yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn,—dadleuon ag y daeth ei enw, ar ol hyn, mor adnabyddus ynddynt: ac y mae yr un teimlad crefyddol dwfn a dwys, yr un hynawsedd tymher ac ysbryd, yr un cariad diffuant at y gwirionedd, a'r un lledneisrwydd a boneddigeiddrwydd dull, ag a'i nodweddent yn ei holl fywyd cyhoeddus, ac sydd i'w canfod ar wyneb ei holl ysgrifeniadau ereill, yn amlwg yn hynodi y cyfansoddiad cyntaf