er i mi eich sicrhau yn y modd mwyaf difrifol, i mi gael fy hysbysu o hyn gan aelod o'ch cymdeithas chwi eich hun; ac yn yr amser yr ysgrifenais i fy llyfr, tybiais yn wir fod yr hysbysiad yn gywir; ac yr oeddwn yn cael fy arwain i dybied hyn yn fwy, am fod y llyfr, o ran ei gynhwysiad, mor debyg i chwi eich hunan. Yn wir, yr ydych yn cyfaddef fod genych law ynddo; pe amgen, fe allai, na buasai mor frith—lawn o gam—ddarluniadau dichellgar" (Llythyr oddiwrth Owen Davies, &c.," tu dal. 5, 6). Nid yw y gwaith hwn, gan Mr. Parry, ond llyfryn bychan o 24 o du dalenau: ac y mae braidd i gyd yn cael ei wneyd i fynu o ddyfyniadau o lyfr Mr. Davies mewn un golofn, ac adnodau o'r Bibl, gyferbyn â hwynt, mewn colofn arall, er gosod allan y modd y mae "Owen Davies yn erbyn Gair Duw, a Gair Duw yn erbyn Owen Davies." Yn yr ail ran, y mae dyfyniadau o lyfr Mr. Davies dan yr enw "Owen," mewn un golofn, yn dadleu dros y syniadau Arminaidd; a cholofn arall, dan yr enw " Davies," yn haeru rhywbeth croes i hyny; er dangos y modd y mae "Owen Davies yn gwrthddywedyd ei hun." Wedi gwneuthur llawer o'r fath ddyfyniadau, y mae yn diweddu gyda'r geiriau, "Terfyn ar y Casgliad, heb gael terfyn ar Gyfeiliornadau a Gwrth—ddywediadau Mr. O. D." Yr oedd y llyfr hwn yn un o'r pethau mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd, yn ystod yr holl ddadleuon hyny, er attaliad cynnydd y syniadau Arminaidd yn y wlad. Clywsom rai yn dywedyd ei fod wedi bod yn fwy effeithiol, gyda'r werin yn gyffredin, na'r holl lyfrau ereill yn nghyd. Nis gallwn benderfynu hyny: ond y mae yn dra sicr ei fod,oblegyd ei fod mor fyr a chryno a phendant, ac, yn neillduol, oblegyd y cyferbyniad syml a wneir ganddo, heb un amcan i esbonio na dadleu, yn meddiannu addasrwydd annghyffredin i gyfarfod meddyliau lliaws mawr, na buasai llyfr llawer galluocach, ond wedi ei ysgrifenu mewn dull gwahanol, yn effeithio dim arnynt. Y mae hyd yn nod y dyfyniadau a wneir ganddo er prawf o anghysonedd Mr. Davies âg ef ei hunan, nad ydynt, dybygem ni, ac edrych arnynt oddiar safle Arminiaeth, yn cynnwys dim gwrth-ddywediad neu annghysondab, eto ar y wyneb, ac i'r darllenydd cyffredin, fel y mae Mr. Parry wedi eu cyfleu yma, yn peri iddo ymddangos yn hollol annghyson âg ef ei hunan: tra y mae y prawf o'i annghysondeb ymddangosiadol â "Gair Duw," yn ei ystyr lythyrenol a naturiol, dybygem ni, pa fwyaf a edrycher arno, yn dyfnhau yr argyhoeddiad ei fod yn annghysondeb gwirioneddol.