Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/360

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genyf, wedi y cwbl, na fedraf ddywedyd dim amgen nag a ddywedais yn y Lladmerydd, ond yn unig i mi synu fod cymaint yn eu gwneyd heblaw a glywais o'r blaen am danynt. Daeth amrai ataf ar ol y cyfarfod uchod, a dywedasent y cymerent eu llw, pe byddai achos, glywed o honynt rai o aelodau y brodyr Calfinaidd yn dywedyd, er's oddeutu blwyddyn cyn clywed son am y Lladmerydd, fod Mr. Williams wedi gwneyd a gwerthu rhai i amrai. Ni ddywedais o'r blaen ond ddarfod i mi glywed hyny; ae yr ydwyf eto yn dywedyd yr un peth, ond yn gryfach o lawer" (Eurgrawn Wesleyaidd, am Ebrill, 1831, tu dal. 117).

Fe welir yn eglur, oddiwrth hyn, pa fath un oedd awdwr y "Lladmerydd." Wedi gollwng y cyfeillion Methodistaidd ymaith gyda'r dealltwriaeth y byddai yn tynu yn ol y cyhuddiad a wnaethai yn erbyn un o'u Pregethwyr, ar yr hwn ddealltwriaeth yr ymadawsant mewn brawdgarwch, y mae ar ol cael y maes iddo ei hunan, yn gwrthod gwneuthur dim o'r fath beth. Y mae yn rhoddi mwy o bwys ar yr hyn a glywsai, gan ryw rai, iddynt hwy glywed, nag ar dystiolaeth brawd crefyddol, a gweinidog Cristionogol, ond ei fod yn dygwydd bod yn Galviniad, a sicrhai, yn y modd mwyaf pendant, wrtho ef ei hunan, mai cam-dystiolaeth" oedd yr hyn a glywsai yn ei gylch. Ac nid yn unig ni fyn alw yn ol yr hyn a haerasai, neu ynte gyhoeddi ei fod yn awr yn deall, trwy Mr. David Williams ei hunan, nad oedd yr hyn a gyhoeddasai am dano yn gywir; ond y mae yn gwneyd yn hysbys i'r byd mai efe oedd yr un oedd ganddo mewn golwg, wrth gyfeirio at y Pregethwr o Lanidloes; ac yn parhau i "ddywedyd yr un peth, ond yn gryfach o lawer."

Yr ydym yn deall mai gwr ieuane y pryd hyny, sydd eto yn fyw, ac erbyn hyn yn flaenor parchus gyda'r Methodistiaid yn Aberystwyth, a welodd y Daflen hon yn ngwaith Perkins, ac a'i cyfieithodd i'r Gymraeg; gan ei hysgrifenu mewn modd prydferth, ac mewn dull celfydd iawn, heb feddwl cymmaint ar y pryd am ysgrythyroldeb nac anysgrythyroldeb ei chynnwysiad, ag am y cywreinrwydd a ymddangosai iddo ef yn ei chyfansoddiad. Dygwyddodd i ryw un ddyfod i'r tŷ lle yr ydoedd, a'i gweled, a'i chopio; a rhyw fodd felly cyrhaeddodd Mr. Edward Jones. Yr oedd cael y fath beth i'w law, iddo ef yn "ysglyfaeth lawer." Meddyliodd ar unwaith ei fod wedi cael prawf pendant o'r hyn a haerid ganddo ef a'i frodyr, trwy y blynyddoedd, fod