Pelagiaid wedi eu hattodi, gan y golygwyr dysgedig a gofalus, at yr argraffiad, y cyfeiriasom ato uchod, o holl waith Augustine. Yn mhlith y rhai hyn, y mae dau lyfr yn nodedig yn teilyngu ein sylw. Y mae un o honynt yn Amddiffyniad i Augustine, mewn atebiad i enllibiau rhyw rai yn Ffrainc (Pro Augustino Responsiones ad Capitula Calumniantium Gallorum); a'r llall, yn amddiffyniad i Athrawiaeth Augustine, mewn Atebiad i Wrthddadleuon rhywrai y mae efe yn alw yn Vincentiaid, dysgyblion, fe allai, i Vincent o Lerins (Pro Augustini Doctrina Responsiones ad Capitula Objectionum Vincentianarum). Mae y cyntaf o'r rhai hyn yn nodi ac yn ateb pymtheg o Wrthddadleuon yn erbyn Augustine a'r nawfed o honynt ydyw ei fod yn dysgu, "Nad ydyw ein Hiachawdwr wedi ei groeshoelio er prynedigaeth yr holl fyd." Y mae Prosper yn sylwi, ar yr wrthddadl hon, fel y canlyn:—"Nid oes cymmaint ag un o holl feibion dynion nad yw ein Harglwydd Crist wedi cymmeryd ei natur: er mai mewn cyffelybiaeth cnawd pechadurus y ganwyd ef, tra y mae pob dyn yn cael ei eni yn gnawd pechadurus. Yn gymmaint, gan hyny, a bod Mab Duw wedi ei wneuthur yn gyfranog o farwoldeb y ddynoliaeth, ac eto heb bechod, y mae Duw wedi dwyn hyn i bechaduriaid a marwolion, ag y gall y rhai a fyddont gyfranogion o'i enedigaeth ef osgoi rhwymau pechod a marwolaeth. Yn ganlynol, megis nad yw bod Iesu Grist wedi ei eni yn ddyn yn ddigonol er adnewyddiad dynion, oddieithr iddynt hwythau gael eu haileni ynddo ef o'r Yspryd y ganwyd ef ei hunan: felly, nid yw fod ein Harglwydd Crist wedi ei groeshoelio yn ddigonol er prynedigaeth dynion, oddieithr iddynt gydfarw a'u cydgladdu gydag ef yn y Bedydd. Pe amgen, gan fod ein Hiachawdwr wedi ei eni o'n sylwedd ni o ran y cnawd, ac wedi ei groeshoelio drosom oll, ni buasai yn angenrheidiol i ni gael ein geni drachefn, a'n gwneuthur yn gydblanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef. Ond tra heb y Sacrament hwn nas gall yr un dyn gyrhaedd bywyd tragywyddol, nid oes neb yn gadwedig trwy groes Crist nad yw wedi ei groeshoelio gydâ Christ. Ond nid oes neb wedi ei groeshoelio gydâ Christ nad yw yn aelod o gorph Crist; ac nid oes neb yn aelod o gorph Crist nad yw, trwy y dwfr a'r Ysbryd sanctaidd, yn gwisgo Crist. Efe a ymddarostyngodd yn ein gwendid ni i gyfranogi o angeu, fel y byddai i ni yn rhinwedd hyny gael cyfranogi o'r adgyfodiad. Tra, gan hyny, y gellir dywedyd yn y modd mwyaf priodol fod ein Hiachawdwr wedi ei groeshoelio er prynedigaeth yr
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/367
Gwedd