80, 81). Y mae yn amlwg, oddiwrth y dyfynion hyn, fod yr eglwys hon yn derbyn prynedigaeth neillduol, yn yr ystyr fanylaf i'r gair mewn oesoedd ddiweddarach.
Ond nid oedd pleidwyr Gottschalck yn foddlawn yn unig ar ysgrifenu er ei amddiffyn ef a'i athrawiaeth, penderfynasant gyda hyny gael cynnadleddau eglwysig i'w bleidio. Yn y flwyddyn 855, fe ddarfu i bedwar-ar-ddeg o esgobion tair o daleithiau yn Ffrainc,—Lyons, Vienne, ar Arles, ymgynnull mewn Cymmanfa yn Valence, dan lywyddiaeth Remigius, esgob Lyons, a chyhoeddi penderfyniadau gwrthwynebol i'r rhai a gyhoeddesid yn y ddwy Gymmanfa a gynnaliesid yn Quiersy, ac yn amddiffynol i achos Gottschalck. Cynnaliwyd Cymmanfa drachefn, berthynol i'r un taleithiau, yn y flwyddyn 859; ac un arall drachefn yn Toul, yn y flwyddyn 860, yn cynnwys esgobion pedair—arddeg o daleithiau, ac, yn y naill a'r llall o'r rhai hyn, fe gymmeradwyd ac fe gadarnhawyd penderfyniadau Cymmanfa Valence. Y mae Usher yn dyfynu penderfyniadau Valence, can belled ag yr oedd a wnelent â'r dadleuon yn nghylch Gottschalck; ac y mae y pedwerydd ar Brynedigaeth, ac yn amlwg wedi ei fwriadu yn erbyn pedwerydd canon Quiersy, a ddyfynwyd genym eisoes. Y mae fel y canlyn:—" Hefyd yn nghylch y prynedigaeth trwy waed Crist, oherwydd y cyfeiliornad mawr sydd wedi codi yn nghylch yr achos hwn, fel ag y mae rhai, megis y mae eu hysgrifeniadau yn dangos, yn ei osod allan fel wedi ei dywallt dros y rhai annuwiol hyny ag oeddent o ddechreuad y byd hyd ddioddefaint ein Harglwydd wedi marw yn eu hannuwioldeb ac yn cael eu cosbi â damnedigaeth dragywyddol, yn wrthwyneb i'r ymadrodd prophwydoliaethol hwnw, Byddaf angeu i ti, o angeu, byddaf dranc i ti y bedd' (Hos. xiii. 14); ein hewyllys ni yw y dylid dal a dysgu yn syml ac yn ffyddlawn, yn ol y gwirionedd efengylaidd ac apostolaidd, mai drostynt hwy y rhoddwyd y pris hwn, am y rhai y dywed ein Harglwydd ei hunan, 'Megis y dyrchafodd Moses y sarph yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn: fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef ond caffael o hono fywyd tragywyddol' (Ioan iii. 14, 15, 16). Ac y mae yr Apostol yn dywedyd fod Crist wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer ' (Heb. ix. 28). Ac, yn mhellach, am y pedair erthygl a dderbyniwyd