Fuller, ac na chaniatai unrhyw ohebiaeth rhyngddo âg ef. Yn mhen ychydig flynyddoedd (1806), fe fu Mr. Booth farw, ac fe beidiodd y dadleu; ac yr oedd egwyddorion Mr. Fuller yn raddol yn ennill cynnifer o bleidwyr, fel, erbyn ei farwolaeth yntau (1815), yr oeddent yn cael eu derbyn, fe allai, gan haner cynnulleidfaoedd y Bedyddwyr yn Lloegr; ac, er aml ymosodiad i'w herbyn, ac, weithiau, gyda mesur helaeth o allu a phenderfyniad,—megis gan y diweddar Mr. William Rushton o Liverpool, yn ei "Defence of Particular Redemption,"—y mae ei syniadau ef, neu, yn hytrach, rhai llawer llai Calvinaidd na'r eiddo ef, yn cael yn awr eu derbyn yn y nifer mwyaf o lawer o'u heglwysi trwy Loegr a Chymru.
Mae yr un ddadl hefyd wedi bod flynyddoedd yn ol yn creu cyffro mawr yn Scotland, yn enwedig yn mhlith yr Annibynwyr, ac yn neillduol yn yr United Secession Church. Fe ddechreuodd y ddadl yn mhlith y "Presbyteriaid Unedig," trwy i Mr. James Morison, yr hwn oedd y pryd hyny yn weinidog i'r eglwys hono yn Kilmarnock, gyhoeddi rhyw syniadau yn nghylch yr Iawn a ystyrid gan Henaduriaeth Kilmarnock mor gyfeiliornus, fel ag y darfu iddynt ei attal i weinidogaethu yn eu plith. Dygwyddodd hyny yn mis Mawrth, 1841. Appeliodd Mr. Morison at y Gymmanfa yr hon oedd i'w chynnal yn yr haf canlynol: a daeth y pwnc, yn y cyfamser, yn destyn llawer o siarad ac ysgrifenu. Yr oedd yn wybyddus, er ys rhai blynyddoedd, fod Dr. John Brown o Edinburgh, a Dr. Robert Balmer o Berwick, y ddau athraw hynaf yn eu Hathrofa Dduwinyddol, yn coleddu y syniad fod cyfeiriad dyblyg yn marwolaeth Crist; sef, ei fod wedi marw dros bawb fel ag i osod i lawr sail galwadau a gwahoddiadau cyffredinol ar ddynolryw yn ddiwahaniaeth i dderbyn iachawdwriaeth trwy gredu yr efengyl, ac i symmud ymaith bob rhwystr oddiar ffordd cadwedigaeth dyn, oddieithr yr hyn a gyfodo oddiwrth ei anewyllysgarwch ef ei hunan i'w derbyn; tra, ar yr un pryd, yr oeddent yn dal yn bendant fod personau neillduol wedi eu rhoddi iddo gan y Tad i'w cadw, a'i fod yntau, yn ei farwolaeth, mewn perthynas gyfammodol â hwynt; fod ganddo gariad neillduol atynt—a bod ei farwolaeth fel iawn wedi ei bwriadu i sicrhau yn anffaeledig eu hiachawdwriaeth. Ond, yn gymmaint a'u bod yn edrych ar yr Iawn mewn un ystyr yn gyffredinol, fe dadogid gan rai arnynt hwy yn gwbl, yn enwedig ar Dr. Brown, y syniadau a ddysgid gan Mr. Morison. Oblegyd hyn, fe farnodd Dr. Brown y byddai yn