ymddifyrent mewn cerddoriaeth. Yn mhen ychydig amser wedi iddo fyned i Langernyw, yr oedd Ffair yn dygwydd bod yno (Tachwedd 29). Penderfynodd y cantorion gael cyfarfod canu yn yr eglwys y noswaith hòno, ac anfonasant i Gammaes i ddymuno ar John Jones ymuno â hwynt. Aeth yntau: a buont yno yn canu hyd nes aeth yn mhell iawn ar y nos. Ond fe aeth y cyfarfod hwnw drachefn a'i ddiwedd yn dra afreolus, yn gymmaint felly fel y penderfynodd efe nad âi i unrhyw gyfarfod o'r fath gyda hwynt ar ol hyny. Ac nid aeth. Fe barhäodd, pa fodd bynnag, am rai Suliau i fyned i'r gwasanaeth yn yr eglwys ac i ganu gyda'r cantorion ereill. Pan ddaeth gwyliau y Nadolig, rhoddodd Offeiriad y plwyf giniaw mawr i'r cantorion, fel ychydig gydnabyddiaeth iddynt am eu llafur. Gwahoddwyd yntau i'r ciniaw, ac efe a hysbysodd hyny i'w chwaer. Gofynodd hithau iddo a oedd efe am fyned. "Ha," ebai yntau, "nid af i: yrwan yr ydwy' i yn deall; canu mawl i Dduw a'r gogoniant iddynt hwy eu hunain. Nid af fi byth onid hyny ar eu cyfyl." Ac felly fu. Nid aeth mwyach i'r Llan ond cadwai o hyny allan yn gyson at y capel; gan fyned i bob cyfarfod a gynnelid yno ar y Suliau, a phob pryd y gallai yn yr wythnos, oddieithr y cyfarfod eglwysig yn unig. Tua'r pryd hwn efe a freuddwydiodd freuddwyd a effeithiodd yn ddwys iawn ar ei feddwl. Yn ei freuddwyd efe a welai ryw un yn tynu ei galon ef ymaith ac yn ei dodi ar ddysgl, ac yna yn ei gysuro ef trwy sicrhau iddo y cai galon newydd yn ei lle. Tystia ei chwaer i hyny effeithio cymmaint arno fel na welodd am amser maith un wên ar ei wynebpryd, ac y byddai yn wastadol yn ymneillduo i unigedd ac yn ymddangos fel am osgoi pob cyfeillach. Yr un pryd yr oedd yn parhau yn ymroddedig i'w lafur gyda cherddoriaeth, ac yn gwneyd ei oreu tuag at godi y canu yn y Capel, nes yr aeth yn adnabyddus ac yn hynod fel cantor trwy yr holl gymmydogaeth. Ond yr oedd yn amlwg arno, hyd yn nod yn y cyfarfodydd canu a phob amser, fod ei feddwl dan argraffiadau crefyddol dwysion a difrifol iawn.
Ryw bryd yn yr adeg yma, tua dechreu y flwyddyn 1819, fe ddaeth Mr. Henry Rees, y pryd hyny o Lansanan, i Langernyw i bregethu. Yr oedd hyn yn fuan iawn, yn wir, yn mhen ychydig wythnosau, wedi iddo ddechreu ar y gwaith oedd eisoes wedi llyncu ei holl fryd, ac yr arddangosai y fath gymhwysderau iddo. Yr oedd y fath ddifrifoldeb yn null, y fath danbeidrwydd yn ysbryd, y fath ireidd-dra yn nheimlad, a'r