anaeth yr addoliad teuluaidd, a hyny gyda'r fath eneiniad a nerth nes llwyr orchfygu teimladau y brawd hynaf. Ar ol y weddi, fe safodd ar ei draed tu ol i'r bwrdd, a'i wyneb at y pared, a gwaeddai allan yn hynod o ddrylliog ac effeithiol," Yr oeddit ti wedi meddwl, Satan, y cait ti fi, ac, yn wir, yr oeddwn inau hefyd wedi meddwl hyny fy hunan. Ond, erbyn hyn, yr wyf wedi meddwl y cei di dy siomi: yr wyf yn meddwl na chei di mo honwyf byth. Ydwyf yn wir. Yr wyf yn meddwl fod yr Arglwydd Iesu am danaf fi. O, diolch iddo! O Iesu anwyl!"—Yr oedd pawb trwy y tŷ wedi myned i wylo, a'i fam, yn enwedig, yn gorfoleddu yn hynod o effeithiol. Yr oedd ei chydnabyddiaeth helaeth â'r ysgrythyrau, a'r dawn rhwydd oedd yn naturiol iddi, ac yn neillduol y cynhyrfiad dirfawr yr oedd ei hysbryd dano y pryd hyny, wrth weled arwyddion mor obeithiol ar ei mab hynaf, yn peri e bod yn nodedig o rymus. Dyma yr unig dro erioed y gwelwyd ef wedi colli mor lwyr arno ei hunan.
Ar ol gorphen y tymhor yn Cammaes, Llangernyw, fe ddychwelodd ddechreu Mai, 1819, i Ddolyddelen drachefn. Nid oes genym ddim hanes neillduol am y modd y treuliodd yr haf hwnw heblaw ei fod yn ymroddi â'i holl egni i fywyd crefydd, a'i fod yn ystod yr hâf wedi cynnyddu yn ddirfawr mewn dawn gweddi. Yr oedd y Diwygiad yn fyw iawn yn Nolyddelen yr haf hwnw, nerthoedd y nefoedd yn cael eu teimlo braidd yn mhob cyfarfod crefyddol, a lliaws mawr yn tori allan yn fynych, gan rym y dylanwad oedd ar eu meddyliau, i hwyliau o orfoledd a mawl. Ni welwyd John Jones erioed, yn yr Addoldy, dan y fath ddylanwadau ei hunan, er nad oedd dim mwy cyffredin, hyd yn nôd y pryd hyny, nag i ereill dòri allan mewn gorfoledd felly pan y byddai efe yn cymmeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddio. Yr oedd yn ymddangos, yn mha le bynnag y byddai, yn dra dwys a difrifol ei feddwl; ac y mae yn ddiddadl ei fod yn defnyddio ei amser y misoeddi hyn, oddieithr yr hyn a roddid ganddo at gerddoriaeth, braidd yn gwbl mewn myfyrdod ar wirioneddau yr efengyl, ac mewn ymchwiliadi gynnwys ac ystyr yr ysgrythyrau sanctaidd. Yr oedd yn amlwg iawn hefyd fod awydd gwirioneddol ynddo am iachawdwriaeth ereill, ac yn neillduol yr oedd yn teimlo yn ddwys yn achos ei frawd Richard, yr hwn, erbyn hyn, oedd yr unig un o'r teulu oedd heb ymostwng i iau Crist. Yr oedd Richard, yr hwn oedd ddwy flynedd ieuangach nag ef, trwy ryw gydnabyddiaeth, wedi myned yn bur ieuanc at am-