ymddangos fel yn eu traddodi i'w gof, ac weithiau yn eu hadrodd o'i gof mewn llais uchel dros y tŷ. Daeth yn mlaen, ar y dechreu, agos yn gwbl gyda'i Fibl a gorseddfainc y gras: y naill yn ei ddiwallu â defnyddiau, a'r llall yn ei lenwi â gwresawgrwydd. A rhwng y defnyddiau meddwl, a'r gwresawgrwydd ysbryd, a'r myfyrdod diball, fe gynnyddodd yn nodedig o gyflym i gymhwysder tra anarferol at y gwaith mawr yr oedd ei fryd arno.
Nid oedd yn bosibl i'r fath un beidio tynu sylw arbenig ei frodyr crefyddol, ac yn neillduol y swyddogion eglwysig yn Nolyddelen. Yr oeddent oll wedi gwneyd eu meddyliau i fynu ei fod i fod yn bregethwr, ac yn un annghyffredin felly; a dysgwylient, bob wythnos, glywed ei fod wedi gwneyd ei deimladau, gyda golwg ar hyny, yn hysbys i ryw rai o honynt. Yr oeddent yn ei wylio yn bryderus ac yn obeithiol, gan roddi iddo, yn yr Ysgol Sabbothol ac yn y cyfarfodydd gweddio, bob cyfleusdra a allent i'w wneuthur ei hunan, o ran ei ddoniau, yn adnabyddus i'r holl eglwys. Parai ei hynodrwydd mewn gweddi iddynt feddwl yn uwch uwch am dano y naill dro ar ol y llall. Wedi ymddyddan â'u gilydd lawer gwaith yn ei gylch, fe nodwyd un o honyut i fyned ato, ac i ofyn yn neillduol iddo, ai nid oedd yn meddwl am bregethu. Ryw fodd neu gilydd, pa fodd bynnag, aeth yn rhy wan i addef trallod ei feddwl y tro hwnw. Dychwelodd y brawd at ei gydswyddogion, nid yn siomedig, ond yn gwbl argyhoeddedig mai rhyw fath o wylder a'i hattaliasai rhag adrodd yr hyn mewn gwirionedd oedd yn ei deimladau. Annogodd anfon rhyw frawd arall ato ar yr un neges. Penderfynwyd ar hyny. Fe ymollyngodd yntau i adrodd wrth y brawd hwnw ychydig o'i deimladau, ond yn hynod o gynnil, a chydag arwyddion o gryn bryder. Mewn gwirionedd yr oedd mwy nag a allesid dybied o ddieithrwch rhyngddo a'r swyddogion eglwysig, a barai yn lled anhawdd iddo fod yn rhydd iawn i adrodd ei deimladau wrthynt. Yr oedd y sobrwydd a'r difrifoldeb a'i hynodent, gyda'r prawf anarferol o ddoniau a ddangosid ganddo, yn enwedig wrth weddïo, yn peri fod graddau helaeth o'i arswyd ar yr hen frodyr; ac yr oedd yntau yn cadw ei hun mor neillduedig oddiwrth bawb, ac agos ddigymdeithas â phawb ond ei deulu ei hunan, fel nad hawdd oedd iddynt hwythau nesau ato yntau i ymofyn ag ef yn nghylch yr hyn y pryderent gymmaint o'i blegyd, ac ydoedd mor bwysig iddynt hwy yn gystal ag iddo yntau. Yr oedd hyny, pa fodd bynnag, yn awr drosodd,