gyflymach, gan gynnyddu mewn hyawdledd a thanbeidrwydd ac effeithioldeb, fel yr ennillodd feistrolaeth lwyr ar ei holl wrandawyr. Erbyn hyn yr oedd Owen Llwyd wedi ymweithio yn mlaen yn raddol trwy y gynnulleidfa, ac mewn gwres mawr yn datgan ei deimladau, fel yr oedd o'r diwedd wedi nesau at ymyl y pregethwr. Pan oedd yr holl gynnulleidfa wedi ei chynhyrfu yn ddirfawr, gwaeddodd y pregethwr gyda nerth a dylanwad anorchfygol, gan gyfeirio at blant Duw, " Yn llaw pwy, dybygech chwi, y maent hwy?" Ar hyny Owen Llwyd, wedi colli yn gwbl arno ei hun, a gauodd ei ddwrn ac a'i gosododd ar wyneb y pregethwr, ac a waeddodd allan mewn hwyl orfoleddus, " Yn llaw fy Nhad I, weli di." Dyna y pryd yr agorodd y pregethwr ei lygaid gyntaf, ar ol darllen ei destyn, a hyny oblegyd teimlo rhyw beth dieithrol ar ei wyneb. Yr oedd yr holl le yn awr yn gyffro trwyddo; pawb fel wedi colli arnynt eu hunain. Gellir dyfalu rhyw beth am faint y teimlad a'r cynhwrf, oddiwrth y ffaith fod un wraig wedi gollwng ei baban bychan oddiar ei gliniau, a buasai wedi syrthio i'r tân oni buasai i wraig arall y foment hono ei weled a'i gipio i'w dwylaw. Mae y wraig, mam y plentyn, yn fyw ac yn iach eto. Bu Mr. Ellis James, y Faenol, yn agos i Fangor, ein hawdurdod am yr adroddiad hwn, yr hwn oedd hefyd yn gweled y peth â'i lygaid ei hun, yn ymddiddan yn ddiweddar â hi am y tro. Yr oedd hyn ar nos Sul y Sulgwyn, Mehefin 10, 1821.
Dyma y bregeth gyhoeddus gyntaf iddo. Nid ydym wedi cael y manylion, er ymofyn llawer, yn nghylch yr ymdrafodaeth a fu yn yr eglwys yn Nolyddelen, a rhwng yr eglwys a'r Cyfarfod Misol, gyda golwg ar ei alwad i'r gwaith. Buasai yn dra dymunol genym gael gwybod pwy oedd y cenhadau a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i'r eglwys, pa sylwadau neillduol a wnaed ganddynt ar y pryd, pa fodd yr oedd yntau yn ateb yr amrywiol holiadau a ofynid iddo, a pha fodd y cymmerwyd llais yr eglwys ar yr achlysur pan y rhoddwyd y caniatâd iddo. Ond nid oes genym ond dyfalu am y pethau hyn oll. Hyn sydd ddiammheuol genym, fod John Jones, ar unwaith, yn marn a chydwybod a theimlad yr holl gymmydogaeth nid yn unig yn bregethwr, ond yn bregethwr o'r dosparth cyntaf ac o'r radd uchaf. Rhwng y adgof oedd gan amryw o honynt am ei bregethau rhyfedd pan yn blentyn y doniau arbenig a ddangosasid ganddo, ac a gynnyrchent y fath effeithiau, yn y cyfarfodydd gweddïau, wedi ei ail ymuniad â'r