Yn y "TRAETHODYDD " am Mawrth, 1860 (tu dal. 96-120), fe ymddangosodd "Marwnad" arall, ragorol iawn iddo. Yr ydym yn gwybod fod hon wedi ei chyfansoddi yn fuan wedi marwolaeth Mr. John Jones, a phe buasai y "Cofiant" hwn wedi ei gyhoeddi, pryd y dylasai gael ei gyhoeddi, buasai yn ymddangos ynddo. Ei awdwr ydyw, Mr. Robert Hughes, Llangernyw, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw barddonol "Glan Collen." Mae gwir enaid y gân yn treiddio trwy y cyfansoddiad hwn, ac yn rhoddi bywyd, a nerth, a theimlad, a phrydferthwch, ar bob llinell braidd o'i fewn. Gan obeithio ei fod yn nghyrhaedd nifer mawr o'n darllenwyr, rhaid i ni foddloni ar ychydig ddyfyniadau o hono:—
"Nid mor hawdd yw cuddio teimlad—anhawdd iawn yw llochi tân;
Fflamio 'r oedd yn nhragwyddoldeb, yn serchiadau Iesu glân:
Felly byddai 'n rhwygo mynwes hen losg-fynydd Tal-y-sarn;
Ac yn llosgi gau-noddfäoedd, fel pe buasai ddydd y farn!
"Byddai ddoniau megis afon fawr, lifeiriol, ddofn ei rhu,
Yn ymchwyddo 'n falch ei threigliad, gan ymledu ar bob tu;
Uwch, ac uwch ei thwrf mawreddog, cryfach, cryfach rhed y'mlaen,
Nes y llynca iddi 'i hunan, amrywiaethau dôl a gwaen.
"Fel y môr ar flaen gorllanw, araf chwydda yn ei rym;
Er, fe allai, nad yw'n marchog, ei ffroenuchel gesyg llym;
Eto medda nerth anfeidrol,-chwardd am ben y rhwystrau ynghyd,
A chrechwena mewn mawrfrydedd, wedi boddi'r traeth i gyd.
"Fel y gwynt, pan huna 'r storom, yn difyru anian fwyn;
Chwery fel y fam â'r baban, gan ogleisio dail y llwyn:
Ond mae'n deffro ac ystwyrian, fel rhyw gadarn ar ddihun;
Clywch! mae'r cedrwydd dano'n gruddfan, a dadwreiddir llawer un.
*******
"Y mae diwrnod yr uchelwyl wedi dyfod yn ei bryd;
Gwelir ugain mil o ddynion yn un dyrfa hardd ynghyd:
Holir am ein gwrthddrych yno, edrych mae y dyrfa draw;
A dysgwyliant oll am dano, fel y sychdir am y gwlaw.