gilydd yn awr ac eilwaith. Ac er eu bod hwy yn cael cyfnewid felly eto hwynt-hwy oeddynt yn gwaeddi am orphwys ar hyd y ffordd. Y mae lliaws o hanesion cyffelyb ar gof ei gyd-weithwyr am dano hyd heddyw. Ac y mae yn ddiammheuol fod rhyw nerth gewynol anarferol yn eiddo iddo. Y oedd ei holl ymddangosiad, yn neillduol y pryd hyny, yn un o'r rhai prydferthaf a welwyd erioed. Yr oedd llunieidddra y corph, ffurf y wyneb, tynerwch y gwrid oedd ar y bochau, yr holl olwg arno oddiallan, yn gyfryw ag i'w wneuthur ar unwaith yn wrthddrych sylw arbenig pwy bynag a'i gwelai o ran ei harddwch corphorol. Yr oedd yn nodedig felly pan yn sefyll. Ond pan gerddai yr oedd ei gamrau mor freision a tharawiad ei droed mor drwm nes anmharu cryn lawer ar ei ymddangosiad. Yr oedd yn wir, hyd ddiwedd ei oes, mor ddiofal am ei gerddediad ac yn taro ei droed gyda'r fath nerth fel y byddai y cerrig yn gorfod myned o'i ffordd yn fynych.
Ond yr hyn a dynai sylw ei gydweithwyr fwyaf yn Nghloddfa Llanrhochwyn, fel yn Nghloddfa'r Clogwyn, oedd difrifoldeb cyffredinol ei feddwl, a'i ymroddiad gwastadol, dybygid, i fyfyrdodau crefyddol. Ar yr awr ganol dydd, pan y byddai y cloddwyr yn ymgasglu at eu gilydd, ac ymddiddanion ofer, ac ysywaeth! aflan, weithiau, yn cymmeryd lle rhyngddynt, nis gwelid ef un amser yn eu plith. Byddai efe beunydd yn ymddidoli i ryw le o'r neilldu gyda'i Feibl, a byddai arwyddion amlwg ar ei wedd, pan y delai at ei gyd-weithwyr, ei fod wedi bod mewn cymdeithas agos â'i Dduw. Byddai cwestiynau crefyddol yn fynych yn troi i fynu yn mhlith y gweithwyr, ac yn aml iawn yn cymmeryd ffurf ddadleuol. Ryw ddiwrnod, yr ydoedd manylder a daioni Rhagluniaeth yn destyn felly. Yr oedd John Jones yn dadleu yn gryf fod y dygwyddiadau lleiaf, pa mor fychain bynnag, dan lywodraeth hollol y Brenin Mawr, a bod yr holl oruchwyliaethau dwyfol wedi eu bwriadu ac yn sicr o derfynu er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw, tra ar yr un pryd yr addefai nas gallem ni bob amser, yn y fuchedd hon, esbonio llawer o bethau a allont ymddangos yn milwrio yn erbyn hyny, ond y gwelid ryw bryd mai Doethineb a Daioni perffaith sydd wrth y llyw. Aeth y ddadl yma rhagddi, y boreu hwnw, nes oedd yn bryd ciniaw. Ond erbyn i John Jones fyned i chwilio am ei giniaw, canfyddwyd fod rhyw gi, a ddaethai ar ddamwain i'r Gloddfa, wedi gwneyd ciniaw iddo ei hunan o'r bwyd a ddygasid ganddo ef gydag ef o'i letty. Ar hyny daeth y llanciau ato, a rhwng difrif a chwareu gofynasant