o'r gwŷr ieuainc a berthynent i'r eglwys yn Nhrefriw, ar nosweithiau cyfleus yn yr wythnos, i gyd-ymddyddan ar wahanol bynciau mewn Duwinyddiaeth. Cadwyd y cyfarfodydd hyn i fynu am gryn amser, a theimlai y cyfeillion ieuainc ddyddordeb mawr ynddynt. Yr oedd Mr. Evan Evans a hwythau yn gyfeillion mewn gwirionedd, yn llawen o gael cyfarfod â'u gilydd, a rhyw bwnc pwysig a buddiol a fyddai testyn yr ymddyddan yn wastad. Weithiau fe rag-drefnid testyn y cyfarfod, weithiau fe gyfarfyddid heb yr un mater neillduol yn adnabyddus fel yr un i ddyfod dan sylw. Pan y dygwyddai felly, wedi ymddyddan rhyw gymmaint ar y pwnc a ddygasid ger bron, gadewid ef, yn y cyffredin, yn destyn ymchwiliad pellach, fel ag y byddent oll yn llawn awydd i gael cyfarfod eilwaith er mwyn yr ymddyddan ychwanegol arno. Yn gyffredin ymdrinid â'r pwnc mewn dull o ddadl, rhai yn cymmeryd un ochr, ac ereill yr ochr arall; ond dygid y cwbl yn mlaen ganddynt yn rheolaidd ac yn y dymher oreu, yn mhell uwchlaw taeru a chyndyn-ddadleu, gyda'r amcan o'u sicrhau eu hunain yn y gwirionedd, a chael prawf o wendid neu nerth y gwrthddadleuon yn ei erbyn. Yr oedd John Jones a'i frodyr Richard a William, y diweddar Barchedig Richard Williams, Trefriw, y Parch. Griffith Williams, yn awr o Lanfachreth, Sir Fôn, ac amryw ereill, nad yw eu henwau yn adnabyddus i ni, yn hynod o ffyddlawn gyda'r cyfarfodydd hyny. Yr oedd John Jones a'i frawd Richard yn neillduol yn eu dilyn yn gyson, ac yn gyfeillion calon i Mr. Evans. Pan oedd y Parch. Evan Evans ar symmud i weinidogaethu yn Rhyl, ychydig amser cyn ei farwolaeth, daeth ar ryw achos i Gaernarfon, a galwodd gyda y Parch. David Jones. Troes i ymddyddan yn ebrwydd am y ddau frawd John a Richard. Yr oedd Richard y pryd hyny wedi marw er ys ychydig amser. Yr oedd Mr. Evans yn methu ymattal rhag wylo wrth sôn am dano. Dywedai na bu yn well ganddo am un cyfaill erioed nag am dano ef, ac na welsai neb erioed mwy serchiadol a didwyll. Yr oedd ei dymherau yn ymddryllio yn hollol wrth sôn am y cyfarfodydd a fyddai ganddynt gyda'u gilydd yn Nhrefriw yn nyddiau eu hieuenctyd. Dywedai mai dyna yr adeg fwyaf happus o lawer a fuasai ar ei fywyd ef, a bod cofio am dani yn effeithio ar ei dymherau yn wastad. "Yr oedd yn hawdd," meddai, "gweled y pryd hwnw fod John, a'i frawd Richard, yn mhell bell uwchlaw y cyffredin. Ni chyfarfyddais," meddai, "à neb erioed mor gyflym ei feddwl a Richard Jones; ac y
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/86
Gwedd