ddiwedd ei oes, o fantais ddirfawr i'r Parch. John Jones, nid yn unig am nad oedd yn deall y Saesonaeg ei hunan, ond hefyd am nad oedd ganddo ar y pryd ond ychydig iawn o lyfrau Cymraeg. Agorwyd maes eang newydd o flaen ei feddwl y pryd hwn y bu wedi hyny yn llafurio yn ddiwyd arno yn ei fyfyrdodau am lawer blwyddyn. Nis gallai oddef, hyd ddiwedd ei oes, clywed neb yn dywedyd dim yn isel am waith y Dr. Williams. Byddai yn enwedig yn rhyfeddu clywed dynion o syniadau Calvinaidd yn gwneuthur hyny; a barnai yn wastad fod y cyfryw naill ai heb ddarllen ei ysgrifeniadau eu hunain, neu wedi gwneuthur hyny dan lywodraeth rhagfarn yn eu herbyn, neu ynte yn annghymhwys o ran galluoedd eu meddyliau i osod barn deg ar y fath ysgrifeniadau. Pa fodd bynnag, y mae yn eithaf amlwg ei fod ef ei hunan wedi derbyn llesâd mawr oddiwrthynt, ac oddiwrth yr ymdrafodaeth â hwynt yn y cyfarfodydd hyn, ar ei gychwyniad cyntaf allan i waith pwysig y weinidogaeth. Ychydig, fe allai, a feddyliai Mr. Evans, a'r cyfeillion ereill a ymgynnullent i'r cyfarfodydd hyny, y byddai i'r pregethwr ieuanc oedd yn eu mysg ennill cymmaint sylw a dylanwad fel gweinidog yr efengyl yn Nghymru. Ychydig a feddylient fod eu dadleuon yn cael eu dwyn yn mlaen dan oruwchreolaeth Rhagluniaeth yr Anfeidrol er ei gymhwyso yn ychwanegol i'w waith mawr, trwy gyflenwi i ryw fesur ei ddiffygion oblegyd amddifadrwydd manteision addysg yn moreu ei oes. Ond nid ydym yn ammeu dim nad ennillodd yn y cyfarfodydd hyny, a'r myfyrdod yr arweiniwyd ef trwyddynt iddo, lawer iawn mwy nag a ennillodd llawer gŵr ieuanc mewn blynyddoedd o addysg athrofaol.
Yn gymmaint a'i fod yn gweithio yn Llanrhochwyn, ac yn byw, yn ystod yr wythnos, mewn lle nad oedd mewn cysylltiad â Chyfarfod Misol, Sir Feirionydd, bu am gryn amser, yn hwy o lawer nag y byddid arferol yn y dyddiau hyny, heb gael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac yn bregethwr i'r holl Sir. Yn Nghyfarfod Misol y Bala, yn niwedd y flwyddyn 1821, neu yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn 1822, y cafodd y derbyniad hwnw. Yr ydoedd, yn ystod yr hanner blwyddyn blaenorol, wedi bod yn pregethu braidd bob Sabbath yn y lleoedd oeddent yn ei gyrhaedd—y Capel Curig, a'r Bettws, a Dolyddelen; Penmachno a'r Ysbytty; ac yr oedd wedi bod can belled a Cherrig-y-Druidion a Llangwm; a mwy nag unwaith wedi bod dros y mynydd tua Ffestiniog a Maentwrog, ac amryw leoedd ereill. Yr oedd hyn i