Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwg ceir y goreu yn gyntaf, a'r gwaethaf yn ddiweddaf. Priodol yw y rhybudd, Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel sarph, ac a biga fel neidr.' Yr oedd yn hyfryd ar Belsassar tua dechre a chanol y wledd fawr ; ond yn y diwedd dyna ei wedd yn ymnewid, a'i liniau yn curo yn nghyd gan fraw a chryndod. O, am weled y diwedd yn y dechre! a thuag at hyny awn i gysegr Duw—syllwn trwy ysbienddrych yr Ysgrythyr, ac ni a welwn felly am yr annuwiolion, mai 'diwedd y rhai yw dystryw;' ond am y duwiol, 'diwedd y gŵr hwnw fydd tangnefedd.' Gyda gwir grefydd y mae fel yn y briodas yn Cana Galilea y gwin goreu yn cael ei gadw hyd yn olaf.

"Galarwn fwy am ein beiau ein hunain—am yr hyn sydd yn atal oddi wrthym lewyrch wyneb ein Duw. Ymofidiwn am ddryllio Joseph—am iselder achos yr Arglwydd. Galarwn am annuwioldeb y wlad. Beth a wnaeth ein Gwaredwr uwchben Jerusalem oedd yn addfed i ddinystr ? 'Pan welodd Efe y ddinas, Efe a wylodd drosti.' Fy mrodyr, parhewch i hau, a hau yn dew, o'r galar sanctaidd hwn; oherwydd y rhai sydd yn hau mewn dagrau a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.' Ond wrth annuwiolion rhaid i mi ddywedyd, Hauwch yn deneu; ïe, gwyliwch hau yn dew; bydd y grwn yn ddigon maith i fedi crop digofaint yn ddiddiwedd ar ol hau ychydig. Ond y mae genyf gyngor gwell i'w roddi i chwi heddyw: Newidiwch yr hâd. Digon yw yr amser a aeth heibio i fyw yn ol y cnawd. 'Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch; troer eich chwerthin yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch. Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac Efe a'ch dyrchafa chwi.'

"Seion, paid a grwgnach dan ochr dywyll y cwmwl; mae'r cysur eto yn ol; ceir yr ochr oleu i wawrio ar fyrder. 'Hwy a ddyddenir.' Dyma ddyddanwch Duw—dyddanwch yr