Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.


NID oes angen ond am ychydig eiriau yma. Y mae wedi cael ei ddyweyd fod mantais ac anfantais yn ngwaith perthynas agos yn ysgrifenu Cofiant. Gwnaethom y defnydd goreu y gallem o'r fantais, a gochelasom hyd y medrem yr anfantais. Yr ydym yn cydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy gwerthfawr a gawsom gan amryw o gyfeillion yn yr adgofion a ddanfonasant neu a adroddasant i ni, ac hefyd yn y desgrifiadau o Wrthddrych yr hanes sydd yn dilyn a ymddangosasant trwy y Wasg o bryd i bryd. Yr ydym yn lled sicr fod nid ychydig o adgofion difyr ac addysgiadol ar gael nad ydynt wedi eu corphori yn y gwaith hwn. Er engraifft, hysbyswyd ni yn ddiweddar gan weinidog poblogaidd y cyngor a roddwyd iddo gan Mr. Evans, "Gofalwch bob. amser fod genych bregeth;" ac wrth bregethwr ieuanc addawol, newydd adael yr Athrofa ac ar fyned i gymeryd gofal eglwys bwysig, ag yr oedd wedi cael boddlonrwydd mawr wrth ei wrandaw yn pregethu, efe a ddywedodd, "Gofala am dy ben ac am dy draed." Ond yr ydym yn hyderu y llwyddwyd yn y tudalenau sydd yn canlyn i gyfleu darlun cywir a chyflawn o un a lanwodd le amlwg yn y pwlpud Cymreig. Ac yr ydym yn ostyngedig yn cyflwyno y Cofiant i sylw ein cydwladwyr.

W.E.
Pembroke Dock,
Chwefror 22ain, 1892.