Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Margaret Cadwgan yn ferch i Howell a Margaret Cadwgan o'r Brynwyth, yn mhlwyf Llandyfodwg, yn nghylch tair milldir i'r gorllewin o Donyrefail. Annibynwr oedd ei thad, ac yn aelod yn y Cymar, lle hefyd y claddwyd ef a'i briod. Ychydig flynyddoedd yn ol gwnaeth nifer o'u holafiaid osod careg ar eu bedd; mae y darlleniad arni fel hyn,—" In affectionate remembrance of Howell Cadogan, of Brynwyth, Parish of Llandyfodwg, Died July 1st, 1803, Aged 36 years; also his Beloved Wife, Margaret Cadogan, Died May 2nd, 1843, aged 79 years." Ganesid iddynt bedwar o blant, Margaret, Ffriswith. Edward, a Mary. Margaret oedd yr hynaf o'r plant, ac nid oedd ond yn nghylch pum' mlwydd oed pan fu farw ei thad. Bu yr amddiffyn Dwyfol yn amlwg dros y weddw a'i hamddifaid bychain. Ar ol marwolaeth ei phriod symudodd Mrs. Cadwgan o'r Brynwyth i Gelligrontyddyn bychan yn ymyl Tonyrefail,—a daeth yn naturiol i'r teulu fyned i'r moddion crefyddol yn nghapel y Methodistiaid. Daeth Ffriswith yn briod i Mr. David Thomas, Tynybryn, ac un o flaenoriaid eglwys Tonyrefail; a Mary yn briod i Mr. Morgan Evans, Pantybrad, blaenor arall yn yr un eglwys; yr oedd y ddwy yn wragedd rhagorol ac yn amlwg eu duwioldeb. Y mab, Edward Cadwgan, a ddaeth yn amaethwr cyfrifol yn yr ardal, ac ymunodd yntau â chrefydd. cyn diwedd ei oes. Gair Mr. Evans am dano ydoedd, Dystaw a sicr o'i siwrne;" ac yn ol ein côf yn gystal a'r hyn a glywsom am dano mae yn anmhosibl gwneuthur gwell desgrifiad. Gyda golwg ar yr hynaf o blant Mrs. Cadwgan o'r Gelligron, gallwn ddyweyd llawer: yr oedd fel merch ieuanc yn hynod o brydferth, ac yn llawn o foneddigeiddrwydd naturiol; a chyn ei phriodas gyda'r mab ieuangaf o Garthgraban yr ydoedd dan argraffiadau crefyddol dwfn; ond nid oedd y naill na'r llall o honynt wedi ymaelodi yn flaenorol i'w priodas. Eithr ni buont yn hir ar ol hyny cyn gwneuthur proffes gyhoeddus o grefydd. Aeth y ddau i'r eglwys yr un pryd, ac y mae yn sicr y derbyniwyd hwy yn aelodau cyflawn gyda'u gilydd; ac fe gymerodd hyny le rywbryd yn y flwyddyn 1814. Am yr ysbaid maith o saith mlynedd a deugain bu Mrs. Evans yn bob cymhorth ac yn bob cysur i'w phriod. Yr oedd yn gynil a gofalus, yn drefnus a medrus gyda'r amgylchiadau teuluaidd. Yr oedd o dymer addfwyn, yn tueddu fel ei brawd Edward Cadwgan i fod yn ddystaw. Yr ydoedd hefyd yn dyner ac yn garuaidd iawn. Llanwodd ei lle yn dda fel gwraig a mam, ac yn enwedig fel gwraig i weinidog yr efengyl. Yr oedd bob amser yn rhoddi pob cefnogaeth i Mr. Evans i dderbyn y galwadau mynych a ddaethant ato i wasanaethu yr achos mawr, gan ddywedyd, "Cer'wch chwi, Billi; mi ofalaf fi am y fferm." Un diwrnod daeth rhywun ato i ofyn ganddo i fyned i bregethu mewn rhyw gyfarfod, pan yn nghanol