Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nifer ei bregethau ond bychan. Yr ydym yn ei gael yn pregethu amlaf ar Job xxxiii. 24; hwn ydoedd ei hoff destyn, ac yn ol y traddodiadau sydd wedi dyfod i lawr atom ni, mae yn ymddangos iddo gael llawer o oedfeuon nerthol pan yn pregethu ar y testyn hwn. Y pregethau nesaf mewn ffafr ganddo ar y daith oeddynt ar y testynau-Salm lxxxix. 14, Mat. v. 4, a I Pedr iv. 18; os nad ydym wedi camrifo, traddododd hwynt yr un nifer o weithiau. Yna daw y ddwy bregeth ar Ioan iii. 18 a Rhuf. iii. 24; a phregethodd hefyd ychydig o droion ar Heb. ii. 3, ac unwaith neu ddwy ar ddau neu dri o destynau ereill.

Mewn perthynas i'r daith uchod, dywed y Parch. Robert Hughes, Gaerwen: "Yr wyf yn cofio eich taid yn myned trwy Sir Fôn y tro cyntaf. Yr oedd ei weinidogaeth y pryd hyny yn defnynu fel gwlaw, fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar laswellt.'" Ysgrifenodd y diweddar Barch. Hugh Roberts, Bangor, atom am bregeth Mr. Evans yr ail fore yn y cyfarfod blynyddol yno Mehefin yr 2il: "Yr oedd hon yn bregeth lewyrchus iawn ac effeithiol ar yr Iawn yn ei berthynas â meddwl Duw, ac â sefyllfa foesol dyn, ac yn ei berthynas â Pherson Crist y Duw-ddyn." Hefyd mewn llythyr a ymddangosodd yn y Drysorfa am 1887, tud. 442, ysgrifenai Mr. Richard Jones (Protestant Cymreig) ei fod yn cofio yr oedfa y cyfeiria Mr. Hugh Roberts ati uchod, gan ei fod "yn fachgen yn dygwydd bod yn y ddinas ar y pryd, ac yn y capel (y Tabernacl) yn gwrandaw ar y Parch. W. Evans yn pregethu o flaen yr hybarch Lewis Morris, Meirionydd, am 10 o'r gloch diwrnod y Gymdeithasfa. Yr wyf yn cofio byth yr helynt dirfawr a fu ar Lewis Morris yn y pulpud trwy adael i W. Evans bregethu o'i flaen."

Fel y gwelsom, yr oedd efe yn pregethu am 10 yn Nghymdeithasfa y Bala Mehefin yr 16eg, 1825. Trefn y moddion ydoedd: Prydnawn y 15fed pregethodd " Wm. Roberts a R. David; am 6, bore yr 16eg, Richard Lloyd; am 10, Wm. Evans a John Elias; am 2, Theophilus Jones ac Ebenezer