Ngwrecsam, cafodd gynyg i fyned yn gyd-athraw â Dr. George Lewis, yr hyn a brawf ei fod yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin. Nis gwyddom beth oedd ei resymau dros wrthod y cynyg hwnw, ond dichon fod ei wyleidd-dra a'i dyb isel am dano ei hun wedi bod yn help i hyny; neu fe allai fod ei awydd i bregethu yr efengyl mor gryf fel na fynai droi oddiwrth hyny at ddim arall. Hefyd cynygiodd rhyw wr boneddig ddwyn ei draul yn un o brif athrofeydd Scotland, a dywedir iddo edifarhau yn ol llaw na fuasai wedi derbyn y cynyg hwnw. Ond pe gwnaethai hyny, ni fuasai yn debyg o fod yn dad ac yn arweinydd i'w enwad yn America, yr hwn gylch yr oedd Rhagluniaeth yn ddiameu wedi ei fwriadu iddo, a'i addurno a'i gyf addasu â chymwysderau neillduol ar ei gyfer. Tua'r un amser cafodd alwad o eglwys Dinbych. Yr oedd hono yn hen eglwys wedi ei sefydlu rywbryd cyn 1675. Yr oedd y dref a'i hamgylchoedd yn lle hynod o swynol a phrydferth. Yr oedd yntau yn gyfarwydd a'r bobl, a hwythau yn gyfarwydd ag yntau, oddiar pan fu yno yn yr Ysgol Ramadegol. Felly yr oedd yn naturiol fod gan alwad eglwys Dinbych atdyniad neillduol i'w feddwl. Derbyniodd yr alwad, ac urddwyd ef yno yn mis Mehefin, 1815. Ymddengys fod ychydig o gam-ddealltwriaeth o barthed i ddydd ei urddiad. Yn Hanes Ymneillduaeth gan Morgan, ac yn hanes eglwys Dinbych gan B. Williams, ei diweddar weinidog, ond yn bresenol o Canaan, ger Abertawy, dywedir iddo gymeryd lle Mehefin 1af; ond yn llythyr Mr. Everett ei hun yn mhen haner can’ mlynedd ar ol hyny, dywedir iddo gymeryd lle y 4ydd neu y 5ed o'r mis. Nid ydym yn gwybod enwau y rhai fu'n
Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/24
Gwedd