anhawsderau yn bod, eto y mae genym y sicrwydd mwyaf o lwyddiant, ond bod yn ffyddlawn—mae Duw trosom, mae ei ragluniaeth yn gweithio o du y caethwas, mae y fasnach yn cael ei rhoi i fyny a chaethfeistri diwygiedig yn dyfod i bleidio yr achos; mae miliynau yn cael eu rhyddhau mewn gwledydd eraill, mae cydwybodau pawb o du ein llwyddiant, mae gwawr llwyddiant eisoes yn chwareu ar y terfyngylch, a diau ceir clywed udgorn y Jubili cyffredinol cyn bo hir iawn. Anwyl frodyr, deffrown a byddwn ffyddlawn.
GORSEDDFAINC ANWIREDD.
Salm 94: 20.—"A fydd cyd—ymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?'
Gweddi yw y Salm hon yn erbyn llwyddiant y rhai drygionus yn eu cynlluniau anghyfiawn a gorthrymus; ac yn y weddi hon y mae y Salmydd yn apelio at Dduw, ac yn gofyn, “ A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd," &c. Fel pe dywedasai, anmhosibl yw i hyny fod—ni dderbynia y gorthrymydd un cymeradwyaeth oddiwrthyt ti―nis gelli edrych ar anwiredd, a drwg ni thrig gyda thi.
Amos a ddywed am y drygionus (pen. 6: 3), "Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesâu eisteddle trais." Mae llawer eisteddle trais a llawer gorseddfainc anwiredd i'w cael yn y byd pechadurus hwn. Gorseddfaine anwiredd oedd gorseddfainc Pharaoh, pan y gorthrymai genedl Israel yn yr Aipht, y bwriai eu bechgyn diniwed i'r afonydd rhag cynyddu o'r genedl, ac y gomeddai iddynt fyned i addoli eu Duw yn ol ei orchymyn. Gorseddfainc anwiredd