yn dra eang, yn gofyn pob meddwl, pob teimlad, pob gair, pob gweithred, heb leihau dim yn llymder a manylrwydd ei gofynion, na rhoi un bleidgarwch i'n llygredd a'n drygedd ni.
VII. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn rhwymedigaeth o hyfrydwch a dedwyddwch. Nid yw dyn yn rhwymedig i ddim ond a duedda at ei ddedwyddwch. Ei ddedwyddwch yw ymddwyn yn ol ei rwymedigaeth, a phob amcan o eiddo y dyn at ddryllio ei rwymau Ef, a thaflu ei reffynau oddiwrtho, a ddwg arno drueni. "Pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?" "Gwae a ymrysona â'i Wneuthurwr." Y dynion mwyaf dedwydd ar y ddaear ydyw y dynion mwyaf teimladwy o'u rhwymedigaeth i Dduw, a mwyaf cydwybodol i ateb y cyfryw rwymedigaeth. Teimlad o rwymedigaeth i Awdwr pob daioni, a meddu calon i ddyfod i fyny a'r cyfryw rwymedigaeth mewn ufudd-dod cynes a pharhaol a wna i fyny un o brif elfenau dedwyddwch y nef. Mae dyn trwy bechod wedi encilio oddiwrth ei rwymedigaeth ac wedi syrthio drwy hyny i sefyllfa druenus. Yno bydd wedi ei adferu yn ol i'w sefyllfa gyntefig, a bydd byth yn ddedwydd.
VIII. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn cynyddu yn barhaus, a bydd yn cynyddu byth. Os yw y rhwymedigaeth i'w raddoli yn ol helaethrwydd y datguddiedigaethau, fel y mae yn rhesymol meddwl ei fod, bydd yr helaethach ddatguddiedigaethau a wna efe o hono ei hun trwy ei weithredoedd mawrion a rhyfedd yn y byd tragywyddol, yn mwyhau byth y rhwymedigaeth. O mor arswydol meddwl am hyn mewn cysylltiad â'r meddwl am sefyllfa y damnedigion yn uff-