Saeson hefyd, trwy ei lafur a'i lwyddiant yn y weinidogaeth mewn amryw leoedd, yn nghyda'i gysylltiad â'r Cenhadwr mewn llenyddiaeth grefyddol, fel nad oes achos i mi wneyd rhagor na galw i gof ei hanes, a chadw cof o hono. Dylai ei gofiant ddod allan yn Gymraeg ac yn Saesonaeg, er lles y wlad hon ac ynys Prydain.
Dyn i'r byd, a thros les goreu y byd, oedd ef. Ni a'i carwn fel cenedl fyth eto tra fyddom byw, fel gwladgarwr o'r fath oreu; ond mwy eto y dylem ei edmygu fel gwir garwr dynoliaeth, o bob gwlad a chenedl. Fel ei Feistr, carai ddynoliaeth druan yn ei hisel radd, a gwnai ei oreu i'w dyrchafu i'r anrhydedd mwyaf.
"Diwygiwr" America yn deg yw'r Cenhadwr, o'i ddechreuad. Cafodd well mantais na Diwygiwr Cymru, er cystal y carem hwnw, dan ofal y diweddar Barch. D. Rees, o Lanelli, D. C., i ddadleu dros y diwygiadau goreu yn yr oes. Yr oedd brwydrau celyd America yn rhagorach na brwydrau yr Hen Wlad. Trwy lawnder ac amrywiaeth ei faterion, a thlysni a choethder ei argraffwaith, yr oedd y Cenhadwr wedi ei wisgo yn hardd; ond eto bu raid i'w olygydd ddod i fyny o'r rhyfel, fel ei Geidwad, "A'i wisg wedi ei lliwio gan waed." Dirwest a rhyddhad y caethion sydd ddiwygiadau a gofir byth, er cymaint a gostiasant i'n dadleuwyr!
Pan oedd y Dr. gwrol, er lleied ei faint corphorol, yn nghanol poethder yr ymdrechfa, cofus gan lawer o honom sydd eto yn fyw, am y cyfarfod yn nghapel helaeth Dr. Aiken, yn Utica, yn y flwyddyn 1833, pan oedd Wm. L. Garrison a G. Smith yn dadleu