sydd ar y tair cyfrol gyntaf o'r Cenhadwr. Argraffwyd y ddwy gyfrol gyntaf gan R. W. Roberts, Utica. Ond. argraffwyd y drydedd yn Remsen gan J. R. a R. Everett, ac yno yr argraffwyd ef yn barhaus o hyny allan. Yn Nghymanfa Oneida, yn Medi 1842, penderfynwyd, "Fod y Cenhadwr rhagllaw i gael ei ystyried yn eiddo y Parch. Robert Everett, i'w ddwyn yn mlaen yn ei enw ac ar ei draul ei hun. A gwnaeth Mr. Everett dderbyniad o hono i fod felly. Ac addawodd y gweinidogion y gwnaent eu goreu er ei gefnogi a'i gynorthwyo yn mhob modd, gan gredu y bydd yn gymaint dros yr achos mawr a gerir genym oll, a lles cyffredinol ein cenedl ag o'r blaen." Anfonwyd allan o'r un Gymanfa anerchiad ar ran y Cenhadwr, wedi ei arwyddo gan chwech o weinidogion, yn yr hwn y dywedant, "Yr ydym yn ei gyflwyno i ddwylaw ein hanwyl frawd y Parch. R. Everett, gyda chwbl hydery bydd iddo gael ei ddwyn yn mlaen ar yr un egwyddorion, ac i'r un gwerthfawr ddybenion ag a ganfyddir yn ei ddygiad yn mlaen hyd yma. Yr ydym wedi canfod erbyn hyn mai peth anhawdd ydyw dwyn mlaen yn fath waith gan gymdeithas—y gwaith a berthyn i lawer, nid hawdd yw cael neb i ofalu am dano yn ei ranau, fel y dylid gwneyd. Ac hefyd, yr ydym wedi cael boddlonrwydd, trwy y profiad a gawsom hyd yma, nas gellir dysgwyl elw arianol oddiwrtho. Rhoddodd ein brawd ei lafur fel golygydd am y ddwy flynedd gyntaf am ddim, ac heb dderbyn at ei draul yr hyn a'i gwnaeth yn ddigolled." Dengys yr anerchiad yma mai Dr. Everett oedd y golygydd o'r dechreuad, mai golygyddion mewn enw oedd y lleill, a bod y rhan fwyaf o'r pwys a'r cyfrifoldeb yn gorphwys ar ei ys-
Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/39
Gwedd