Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn cofio clywed un fu'n cyd-deithio ag ef yn dywedyd, "Mae yn Mr. Everett ddigon o ras i saith o ddynion." Cafodd oes hir i fod yn ddefnyddiol, a dysgodd ei blant i fod yn debyg iddo. Yr oedd ef mor grefyddol gartref ag yn y capel ar y Sabboth. Cafodd rodd fawr i gael cydmares bywyd mor addas, yr hon a fu yn gymorth iddo o ddydd ei briodas hyd ddydd ei farwolaeth.


Ar ol cyflwyno i'r darllenydd erthygl ddyddorol yr hen dad Edwards, trown ein golwg yn ol i'r flwyddyn 1861, pan y canfyddwn athrofa enwog Hamilton, yn Nhalaeth Efrog Newydd, yn anrhydeddu y Parch. Robert Everett â'r teitl o D. D., neu Ddoctor mewn Duwinyddiaeth. Ni chlywsom fod na siw na miw wedi ei ynganu gan neb yn erbyn y priodoldeb o hyny, a'r sylw cyffredin oedd fod yr athrofa wedi anrhydeddu ei hun wrth ei anrhydeddu ef. Un golygydd yn Nghymru sydd wedi bod dipyn yn llawdrwm ar y teitlau, a ddywedai am Dr. Everett, "Yr oedd yn wr gweithgar, llawn athrylith, ac yn ysgolhaig mewn llaw- er ystyr. Ni ddianrhydeddodd D. D. ddim arnynt eu hunain wrth sefyll ar ol ei enw ef, mwy nag y gwnaethant ar ol enwau Doddridge, Watts a Dwight. Os oeddynt hwy yn rhagori arno ef mewn rhyw bethai, medrai yntau Gymraeg, yr hyn na fedrai yr un o honynt."

Yn nechreu 1861, yn nyddiau cynhyrfus Gwrthryfel y Caeth-feistri, llewyrchai ei bwyll, ei ddiysgogrwydd, ei wroldeb, a'i ffydd yn Nuw allan yn ogoneddus, pan oedd amryw yn y Talaethau Rhyddion yn ymollwng yn eu hysbrydoedd, ac yn barod i aberthu Rhyddid,