Y mae'n dywedyd: "Newyddion da a glywir y dyddiau hyn o'r Congress. Gobeithiaf cyn pen llawer o fisoedd y bydd tair rhan o bedair o'r Legislatures wedi rhoi eu llais dros y gosodiad o wellhad ar y Cyfansoddiad. Yna bydd y ddeddf yn sefydlog, hyderwn, i'r oesoedd dyfodol, na bo caethiwed i fodoli yn Nhalaethau Unedig America. Diolch iddo Ef am hyny."
Pwy all ddesgrifio y fath orfoledd i'w feddwl oedd Rhyddhad y Caethion? Ar ol i dair rhan o bedair o'r Talaethau fabwysiadu y Gwellhad ar y Cyfansoddiad, rhoddodd yr Ysgrifenydd Seward gyhoeddiad allan, Rhag. 18, 1865, yn hysbysu y ffaith, ac yn cyhoeddi fod caethiwed wedi trengu. Yn y Cenhadwr am Ionawr, 1866, amlyga Dr. Everett ei lawenydd mewn nodyn fel hyn:
"Cwbl Ddilead Caethiwed yn America. I'r Arglwydd byddo clodydd tragywyddol am hyn! * *
Mae America yn wlad rydd—De a Gogledd dan yr un drefn."
Mewn llythyr a ysgrifenodd at ei frawd Edwards, yn mhen haner can' mlynedd ar ol ei urddo, ceir cipdrem doddedig iawn ar ansoddau a theimladau ei ddyn mewnol. Mor naturiol a diymhoniad yr ymddengys ei ddifrifoldeb a'i ddiolchgarwch i Dduw; ac y mae ei wyleidd-dra, ei ostyngeiddrwydd, ei dduwiolfrydedd, a'i ymddiried mabaidd yn yr Arglwydd yn cael ei anadlu allan yn gynes trwyddo. Cyflwynwn ddarn o hono i'r darllenydd:
Anwyl Frawd Edwards—Ddoe oedd y 5ed o June, ac ar y 6ed o June, 1815, y cefais fy ordeinio i waith pwysig y weinidogaeth yn Ninbych, yn ngwydd torf fawr o