Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ru yn 1822, gan R. Everett; a Chaniadau y Cysegr. Yn y flwyddyn 1871 daeth Mr. Nathaniel Roberts, Rosa, ger Dinbych, brawd-yn-nghyfraith Dr. Everett, ac un o ddiaconiaid eglwys Dinbych ar ymweliad i'r wlad hon. Anfonodd yr eglwys yr anerchiad canlynol gydag ef i'w hen weinidog :

Oddiwrth yr Eglwys Annibynol yn Ninbych, G. C.

AT Y PARCH. Robert Everett D. D., Remsen, U. D.:

Hybarch Syr—Yn ngwyneb fod y brawd Mr. N. Roberts, Rosa, un o ddiaconiaid yr eglwys hon, a pherthynas agos i chwi, yn bwriadu talu ymweliad ag America, penderfynwyd yn unfrydol, mewn cymdeithas eglwysig a gynaliwyd yma nos Lun, Ebrill 17eg, 1871, ein bod fel eglwys yn cyduno i anfon ein cofion caredicaf atoch chwi, eich priod, a'r teulu oll. Er fod llawer o honom heb erioed weled eich wyneb yn y cnawd, eto yr ydym yn eich parchu fel un a dreuliodd yr yspaid o wyth mlynedd o foreu ei oes yn weinidog diwyd, ffyddlawn, a llwyddianus yn yr eglwys hon. Ac nis gallwn lai na chydnabod yn ddiolchgar ddaioni Rhagluniaeth fawr y nef yn eich cynal tra yn yr Unol Dalaethau, ar ol hyny, am yn agos i haner canrif, yn weinidog llafurus i Iesu Grist, ac yn eich cynorthwyo i wneyd gwasanaeth mor werthfawr i achos rhyddid, gwirionedd a chrefydd, trwy y wasg, ac ar yr esgynlawr, yn gystal ag yn y pwlpud. Yr ydym hefyd yn cydlawenhau gyda chwi am i chwi gael byw i weled llwyddiant mor drwyadl ar rai o'r egwyddorion mawrion y safasoch mor gadarn o'u plaid.

Dymunem ddatgan ein cydymdeimlad a chwi pan