oedd yn ddifrifol iawn bob amser, fel y gallai pawb ddeall fod pethau pwysig yn ei feddwl. Yr oedd felly yn ei deulu-yr oedd ei dy a'i deulu yn gysegredig i Dduw. O! y parch a'r difrifoldeb fyddai yn cael ei ddangos tuag at Dduw yn yr addoliad teuluaidd. Yr oedd rhywbeth rhyfedd yn addoliad teuluaidd Dr. Everett, rhagor un arall a welais. Ac yr oedd ei anwyl briod, Mrs. Everett, yn help mawr iddo gyda'r gorchwyl pwysig hwnw. Yr oedd yn yr eglwys hefyd yn ddifrifol gyda phob peth. Edrychai yn ddifrifol, ond nid yn sarug. Yr oedd yn gweddio, cyngori, a phregethu yn ddifrifol iawn. Ac O! y fath ddifrifoldeb a fyddai i'w weled ynddo wrth fwrdd y cymundeb, pan ddywedai am ei anwyl Arglwydd wedi ei groeshoelio a marw trosom. Yr oedd yn ddifrifol gyda ei frodyr yn y weinidogaeth; ac yr oedd ei agwedd yn sibrwd yn ddystaw yn meddwl pob un, mai dyn Duw oedd; a chaffai ei barchu fel y cyfryw am ei fod ef felly.
Yr oedd hefyd yn un penderfynol. hyny pan yn gwrthwynebu caethiwed. wawdio, ei erlid, a'i anmharchu, yn ei enw a'i feddianau, am hyny, ond safodd yn wrol dros iawnderau y caeth. Collodd lawer o ddagrau, ocheneidiodd lawer, a chyfranodd lawer o'i arian tuag at helpu y caeth a'i gael yn rhydd. Mae ei ysgrifau yn y Cenhadwr, ei weddiau taerion, a'i areithiau dylanwadol, oll yn dangos ei fod yn ddyn penderfynol dros egwyddorion rhyddid. Gweithiodd yn benderfynol dros ddirwest. Teithiodd ac areithiodd lawer drosti yn siroedd Oneida, Lewis, a Madison; a phe buasai yn fyw, a'i lais ganddo, ni buasai y Gymdeithas Ddirwestol mor isel