Ateb. Meddylir mai rhwng amser marwolaeth Joseph ac ymddangosiad Moses. Pwy ysgrifenodd lyfr Job? Ateb, Meddylia rhai mai Moses, pan oedd yn bugeilio praidd Jethro; eraill mai Elihu, ac eraill mai Job ei hun, ar ol ei adferiad.
Cynwysa y llyfr hanes Job, ei deulu, ei gyfoeth, ei brawf, ei dlodi, a'i adferiad. Mae yr Arglwydd yn ei alw, "Fy ngwas Job." Mae'n sicr genym fod llawer o ddynion duwiol yn y byd yn amser Job. Gallem feddwl fod ei gyfeillion yn rhai enwog mewn duwioldeb; ond yr oedd Job yn rhagori arnynt oll. "Nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear." Cymerwn fenthyg y geiriau yna, gan eu cymwyso at ein hybarch a'n hanwyl frawd, Doctor Everett. Sylwn,
1. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn duwioldeb a bywyd sanctaidd. Ymddygai yn dduwiol a sanctaidd yn mhob man, bob amser, ac ar bob amgylchiad. Yr oedd cymaint o rym duwioldeb yn ei lywodraethu, fel yr oedd rhyw sobrwydd neillduol yn meddianu pawb pan yn ei bresenoldeb; er ei fod yn un o'r rhai pellaf oddiwrth ragrith Phariseaidd, fel y gwelir rhai dynion yn nghymdeithas eraill, am adael yr argraff mai "Sancteiddiach ydwyf fi na thi;" ond yr oedd ein hanwyl frawd Everett yn ddigon pell oddiwrth hyny. Eto, meddyliasom lawer gwaith yn ysbaid y deugain mlynedd y cawsom y fraint o gymdeithasu ag ef yn aml, os oedd dyn wedi ei berffeithio yn y cnawd, ac yn hollol bur o galon, mai efe oedd hwnw. Ni welsom ei gyffelyb mewn nodau o dduwioldeb, ac yn dyfod i fyny mor amlwg â darluniad y Salmydd, "Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnel gyfiawnder, ac a ddywed wir ei galon; heb absenu â'i dafod, heb wneuthur drwg