arfod clywsom ryw swn ofnadwy yn ngodre y dref, nid pell iawn oddiwrthym, a beth oedd yn bod ond y mob oedd wedi rhuthro i office y Standard yn tori yr argraffwasg, ac yn ei thaflu hi a'r holl dypes, a'r papyr, a'r holl gelfi, allan i Whitesboro street i'w llosgi. Cawsom le i feddwl a chredu mai yr addoldy fyddai gwrthddrych nesaf eu rhuthr a'u drygioni. Yr oedd eich tad wedi d'od o'r cwrdd gyda mi i gael llety, a dyna lle'r oeddem, mor ddystaw a'r bedd, yn ofni ac yn crynu, ac yr wyf yn meddwl iddo ef anfon llawer saeth weddi i fyny i'r nef. Gwnaeth Duw i flaenor y mob adgofio y modd yr oeddwn ar ddwy o'r nosweithiau oeraf yn y gauaf blaenorol, wedi codi o fy ngwely a galw arno godi i achub ei geffyl oedd ar fin trengu. Cefais ar ddeall iddo feddwl beth fuasai pobl yn ddweyd am dano os gwnaethai losgi addoldy un oedd wedi gwneyd iddo ef gymaint o ddaioni; ac felly fe arbedwyd y drwg oedd rhai o'r mob yn fwriadu, a chafodd eich tad a ninau fel teulu dawelwch i orphwys a chysgu, Ond nid felly y bu ar bawb. Aeth y mob rhag eu blaen at dy Mr. Alvan Stewart, yr hwn oedd un o'r tai mwyaf o bridd-feini ar ben uchaf Genesee yr amser hwnw, gyda bwriad o'i lwyr ddinystrio. Er nad oedd Mr. Stewart yn dygwydd bod gartref, cawsant y lle wedi ei gauad i fyny yn gadarn. Daeth Mrs. Stewart i un o ffenestri y llofft uchaf, a dywedodd nad oedd un modd iddynt ddyfod i mewn heb gael mwy o niwed nag oeddynt yn ewyllysio, am fod yno haner cant o ynau llwythog, a phump-ar-hugain o ddynion galluog i'w defnyddio; yr hyn a wangalonodd y mob gymaint nes iddynt ymwasgaru.
Dro arall yr oedd eich tad a minau mewn Anti