Cefais y fraint o gydymdrechu & Mr. Everett, ar raddfa fechan, yn achosion rhyddid a dirwest yn gystal a'r ysgolion Sabbothol, er pan oeddwn yn lled ieuanc. Yr oeddwn, er pan wyf yn cofio, yn calonog gydymdeimlo ag ef yn ei ymdrechion egniol gyda'r achosion hyny. A byddwn yn arfer myned i'r cyfarfodydd mynych a gynelider eu pleidio, yn agos ac yn mhell, hyd y gallwn, cyn bod yn ddigon hen i gymeryd unrhyw ran ynddynt. Bob yn dipyn daeth achos dirwest yn boblogaidd iawn yn ein cymydogaethau, a chynelid cyfarfodydd yn aml i areithio ar yr achos. Yn gyffredin pan na ddysgwylid rhyw un dyeithr i fod yn bresenol, penodid amryw mewn un cyfarfod i barotoi areithiau erbyn y cyfarfod nesaf; a mawr y drafferth a fyddai yn aml er dysgu araeth fer o bum' mynyd ar yr achos. Yn mysg eraill cefais inau fy mhenodi yn fy nhro i siarad yn gyhoeddus ar yr achos. Ac ar ol dechreu, byddwn yn cael fy mhenodi yn lled fynych i siarad. Efallai mai oddiar yr egwyddor, ac yn ol yr hen air, "Gyru'r ci a redo" yn fwy nag oddiar unrhyw ragoriaeth ynwyf fel siaradwr,
y bu hyn. Fodd bynag, yr oeddwn y pryd hwnw yn llawn sel gyda'r achos, a byddwn yn cael gwahoddiad yn lled fynych i'r cymydogaethau cylchynol i anerch y bobl ar achos dirwest.
Cadwyd cyfarfodydd gwrthgaethiwol hefyd, y rhai ar y cyntaf a gynelid mewn tai anedd yn ein cymydogaeth ni, am fod yr achos yn newydd ac anmhoblogaidd eto. Ond yr oedd yno rai wedi cael eu meddianu gan yr ysbryd gwrthgaethiwol, fel y cadwyd y cyfarfodydd hyny yn mlaen am gryn amser, ac ni wnai y dirmyg a deflid arnynt yn lled fynych ond cryfhau eu