Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

penderfyniad a mwyhau eu sêl i fwy o ymroad o blaid yr achos. Byddent weithiau yn cael eu cynorthwyo yn y cyfarfodydd hyn gan y Parchn. Robert Everett, Morris Roberts, a rhai eraill, yr hyn a fyddai yn galondid mawr iddynt. Cynelid yn y blynyddoedd hyny hefyd gyfarfodydd achlysurol ar achos yr, ysgolion Sabbothol; ac yr oedd Mr. Everett yn bleidiwr ffyddlon i'r achos hwn hefyd. Felly, rhwng y gwahanol achosion dyngarol a daionus hyn, a'r mynych gyfarfodydd a gynelid yn y gwahanol gymydogaethau o blaid y naill neu y llall o honynt, dygwyd fi yn lled ieuanc i gyfarfyddiad a chydnabyddiaeth lled dda, â Mr. Everett fel diwygiwr.

Er ys deg-mlynedd-ar-hugain, bellach, dechreuais ddyfod i gydnabyddiaeth agosach eto a Mr. Everett, o fewn cylch y weinidogaeth efengylaidd. Ac yn ystod yr amser o hyny hyd pan y gorfodwyd ef gan henaint a methiant i ymneillduo oddiwrth y gwaith, ni chefais neb yn fwy caredig a ffyddlon i mi nag ef. Cyfarfyddem yn dri-misol ac amlach, i gyd-gynal cyfarfodydd a chyd-bregethu. Cefais lawer cyfeillach felus gydag ef, a llawer o gyngorion gwerthfawr ganddo, yr hyn a fu yn fendithiol iawn i mi. Cyfarwyddai fi yn dyner a charedig, fel y cyfarwyddai tad ei blentyn a fawr hoffai, ac nid yn fynych fel yr oedd y blynyddoedd yn tynu yn mlaen, y byddai unrhyw achos o bwys yn dyfod o dan ei sylw na byddai yn ymgyngori â mi mewn perthynas iddo, fel pe buaswn yn henafgwr gwybodus a phrofiadol, gan mor ostyngedig a chyfeillgar ydoedd! Ffurfiwyd felly gyfeillgarwch cynes rhyngom, a barhaodd yn ddidor hyd y diwedd.

Cyfrifaf fod i mi gael fy nwyn i fyny megys o dan